Gwirwyd y dudalen hon
RHAGAIR.
MAB Pen y Wenallt,Ceredigion, oedd Theophilus Evans. Ganwyd ef yn 1604[1]. Treuliodd ei oes ym Mrycheiniog,—yn Nhir yr Abad, Llanynys, a Llangamarch, yn berson eglwys. Bu farw yn 1769, a chladdwyd ef ym mynwent Llangamarch, lle gwelir ei fedd.
Ei brif waith yw Drych y Prif Oesoedd. Cyhoeddodd ef gyntaf yn 1716; ac wedyn, wedi ei ddiwygio a'i helaethu, yn 1740. Cyfieithiodd hefyd lawer o bregethau o'r iaith Saesneg, yn eu plith "Llwybr Hyffordd y Plentyn bach i fywyd tragwyddol."
Rhoddi drych o oesoedd cyntaf cenedl y Cymry oedd amcan Theophilus Evans. Rhydd hanes y Brythoniaid, y Rhufeiniaid, y Brithwyr,
- ↑ Cam osodiad printio; 1693 oedd blwyddyn ei enedigaeth