Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/110

Gwirwyd y dudalen hon

cour saxes (hyn ydyw, Ymafled pawb yn ei gyllell '), lladded pawb y nesaf ato. Wele gorchymyn a gawsoch; ymddygwch fel gwŷr, ac nac arbed eich llygaid.'

Ar y dydd apwyntiedig cyfarfod a wnaethant; ac er ychwaneg o argoelion cariad, Hengist a'u perswadiodd yn hawdd i eistedd Fritwn a Sais bob yn ail, blith drafflith o amgylch y byrddau; ond wedi ciniawa a dechreu myned yn llawen, y cododd Hengist ar ei draed, ac a waeddodd," Nemet cour saxes. Ac yn ddiatreg ymaflyd a wnaeth pob un gyda'r gair yn ei gyllell, a thrywanu y nesaf ato, a hynny gyda chyn lleied o dosturi a phan y bo cigydd yn gollwng gwaed mochyn. Ychwaneg na thri chant o bendefigion a goreuon y deyrnas a ferthyrwyd yn dra mileinig yn y wledd waedlyd honno ar ddydd Calan Mai. Ond Eidiol, iarll Caerloyw, a ddiangodd yn ddidaro, o nerth trosol a gafodd efe dan ei draed, ac â'r trosol hwnnw efe a laddodd ddeng ŵr a thriugain o blant y fall, y Saeson; canys gŵr glew oedd hwnnw. Er nad oedd ganddo ond trosol, eto ni a welwn wirio hen ddihareb,—"Ni ddiffyg arf ar was gwych." Ac medd dihareb arall,—'Glew a a fydd llew hyd yn llwyd.' Yn y flwy ddyn o oedran Crist 472 y bu hynny.

Fe ddamweiniodd i mi weled un o'r cyllill hirion hynny, ac un hagr hell oedd hi oedd ynghylch saith modfedd o hyd, ac yn; y llafn ychwaneg na hanner modfedd o led, ac yn ddau-finiog pum modfedd o'r saith; ei charn oedd eleffant, a manylwaith cywrain arno, a llun benyw a bwl crwn yn ei llaw aswy, a'r llaw ddeau ar ben ei chlun; ac yr oedd llun gwas ieuanc wrth y tu deau o honi, a'r haul o amgylch