Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/111

Gwirwyd y dudalen hon

ei ben; ei gwain oedd eleffant hefyd, wedi ei weithio yn gywrain iawn. Ac meddent hwy, yr oedd y gyllell hon yn un o'r rhai fu gan y Saeson yn lladd penaethiaid y Cymry.

"Gwae ddydd anedwydd anwir,
Gwae rhag yr hen gyllell hir!"

Wedi ymdanu y newydd galarus o'r mwrdra hwn ar led, y werin bobl a fu agos i amhwyllo gan ofn, megis ysgolhaig ieuanc, newydd fyned i'r ysgol, yn cyffro bob cymal ar weled meistr gerwin yn ystwytho llanc diwaith na fynnai edrych ar ei lyfr. Nid oedd y pryd hwnnw gan y Brutaniaid ddim ychwaneg na saith mil o wŷr arfog, y fath ag oeddent; ac ni allwn ddal sylw mai pobl anghall o hyd oeddent yn hyn o beth, sef yn gadael y milwyr fyned ar wasgar ar ol iddynt hwy unwaith gael y trechaf ar eu gelynion. Beth oedd saith mil o wŷr mewn teyrnas a chymaint o ergyd barbariaid arni? Ac yma ar waith y llu egwan, heb yn awr un uchel gadben o ŵr profiadol calonnog yn flaenor arnynt, canys Emrys Ben-aur a ddiswyddwyd ar ol dyfod Gwrtheyrn i reoli eilwaith,—ar eu gwaith, meddaf, yn llaes-wynebu eu gelynion, hwy a sathrwyd gan y Saeson, megis march rhegynog yn torri crin-gae, neu megis y difa fflam o dân berth o eithin crin. A'r Saeson yno a oresgynasant y cwbl o gylch Llundain a'r wlad o amgylch, heb feiddio o neb symud ei dafod yn eu herbyn.

Gwrtheyrn yno, dyn pen-dreigl ag oedd, a aeth ar encil tua Gwynedd, ac megis Saul yn ei gyfyngdra yn ymgynghori â'r ddewines o Endor, felly yntau a ymgynghorodd â'i ddoethion, gwŷr