Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/112

Gwirwyd y dudalen hon

ond odid ddim callach nag yntau, ynghylch pa beth oedd oreu wneuthur yn y fath adfyd a chaledi. A'u barn hwy oedd yn un a chytun, i adeiladu castell o fewn Eryri, fel y caffent ryw breswylfa ddiogel mewn lle anial allan o olwg y byd. Ond cymaint a adeiladid y dydd, os gwir yw'r chwedl, a syrthiai yn y nos, ac ni ellid mewn un modd yn y byd beri i'r gwaith sefyll. A'r brenin a ymofynnodd â'r dewiniaid, a'i ddeuddeg prif-fardd, ond ni fedrent beth i ateb. "Ond," ebe un o honynt, ac ychydig fwy o synwyr pen ynddo nag yn y lleill, dywedwn rywbeth amhosibl i fod, rhag na bo anair i'r dewiniaid." Felly ymhen ychydig, megis pe buasent wedi hylldremio ar y planedau, adrodd a wnaethant, "Pe ceid gwaed mab heb dad iddo, a phe cymysgid hwnnw â'r dwfr ac a'r calch, fe saif y gwaith. Garw yw eich chwedl," ebe Gwrtheyrn, ac yn gall ei wala yn hyn, megis ymhob peth arall, efe a anfonodd swyddogion i bob man o Gymru, canys yng Nghymru yr oedd ganddo awdurdod eto, i ymofyn pa le y ganesid un mab heb dad iddo. A gwedi tramwyo gan mwyaf yr holl ardaloedd, er cryn ddifyrrwch i'r bobl, y daeth dau o honynt i dref a elwid Caerfyrddin, ac ym mhorth y ddinas y clywent ddau lanc ieuanc yn ymdaeru. Enw'r naill oedd Myrddin, a Dynawt y llall. Ebe Dynawt wrth Myrddin," Pa achos yr ymrysoni di â myfi? canys dyn tyngedfennol wyt ti heb dad, a minnau sydd o lin brenhinol o ran tad a mam. "Boed wir dy chwedl," ebe'r cenhadon yno wrth eu gilydd, ac a aethant at faer y dref i ddangos eu hawdurdod i ddwyn Myrddin a'i fam at y brenin i Wynedd. Wedi eu dyfod ger bron, Gwrtheyrn a ofynnodd mab i bwy oedd y