Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/113

Gwirwyd y dudalen hon

llanc. A'i fam a atebodd, mai hi oedd ei fam: ond nad oedd ganddo dad. Y brenin ar hynny a ddywedodd wrth Myrddin, "Y mae'n rhaid i gael dy waed. "Pa les a wna fy ngwaed i mi mwy na gwaed dyn arall?" ebe Myrddin. "Am ddywedyd o'm deuddeg prif-fardd y pair dy waed di i'r gwaith sefyll yn dragywydd," ebe'r brenin. A Myrddin a ofynnodd i'r dewiniaid am yr achos ag oedd yn llestair ac yn rhwystro i'r gwaith sefyll; a phryd nas gallasent roddi ateb iddo, efe a'u galwodd yn dwyllwyr a brad wyr celwyddog. Yr achos na saif y gwaith,eb efe, yw, am fod llynclyn dan wadn yr adeilad. A phan, wrth ei arch ef, y cloddiwyd y ddaear odditanodd, fe gafwyd llynclyn yno yn ddilys ddigon, megis yr oedd efe yn barnu ym mlaen llaw. A'r brenin ar hynny a anrhydeddodd Fyrddin, ond a barodd ladd y deuddeg priffardd, am eu bod yn dwyllwyr ac yn cymeryd arnynt y peth ni wyddent. Y mae eu beddau i'w gweled yno hyd heddyw, yn adnabyddus wrth enw Beddau'r Dewiniaid.

Gwrtheyrn a symudodd oddiyno i Ddeheubarth, i lan Teifi; ac mewn lle anial yng nghanol creigydd a mynydd-dir yr adeiladodd fath o gastell, yr hwn yn ddiau oedd y pryd hwnnw mewn lle anghyfannedd ddigon, ymhell allan o glybod a golwg y byd; ond nid er diben crefyddol y dewisodd efe fyned fel hyn ar encil; oblegid efe, dyn diras ag oedd, megis Ahab, y gwaethaf o frenhinoedd Israel, "a ymwerthodd wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd." Fel y glawiodd yr Arglwydd dan a brwmstan ar Sodom a Gomorrah, felly yma y cafododd eirias-dân wybrenol, yr hwn a ysodd yr adeilad a phawb o'i fewn yn ulw. A'r man a