Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/114

Gwirwyd y dudalen hon

elwir hyd heddyw, Craig Gwrtheyrn; o gylch hanner y ffordd rhwng Llanbedr pont Stephan, a Chastell Newydd yn Emlyn, ar lan Teifi, a rhandir Caerfyrddin. Yn y flwyddyn o oedran Crist 480 y bu hynny.

Yn y cyfamser yr oedd y Saeson yn ddygn ormesol yn creuloni yng Nghent a'r wlad o amgylch; y pendefigion, y cyfoethogion, yr uchelwyr, a ddienyddiwyd bob mab gwraig yn y parthau hyn; ond y cyffredin a arbedwyd i fod yn gaethweision, megis cynifer asyn llwythog, i ddwyn beichiau. Yr oedd hyn yn ddilys ddigon yn fyd caled, ac yn fywyd chwerw; eu palasau, gerddi, perllannoedd, a'u gweirgloddiau, ym meddiant barbariaid anrhugarog a mwrddwyr; y perchenogion yn gorwedd yn gelaneddau ar wyneb y maes, yn borthiant i eryrod a chigfrain; y cyffredin yn gaethweision i baganiaid ysgeler, plant y felldith, yn addoli delwau. Ond eto, y mae'n weddus i ni addef mai pobl ddrwg fucheddol oedd y Brutaniaid hwythau, pobl yn wir wedi ymroddi i aflendid, anwiredd, a thywallt gwaed gwirion; am hynny yr Arglwydd a'u purodd hwy mewn pair cystudd, ac a'u gwerthodd hwy i law eu gelynion. "Os rhodio a wnewch yn y gwrthwyneb i mi," ebe Duw wrth yr Israeliaid gynt, yna y rhodiaf innau yn y gwrthwyneb i chwithau; a dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod; a phan ymgasgloch i'ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i'ch mysg, a chwi a roddir yn llaw y gelyn." Pechod yr Israeliaid hefyd oedd godineb ac ymlenwi yn nyddiau hawddfyd. "Oeddent fel meirch porthiannus y bore; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog. "Ond pan laddai efe hwy," hynny ydyw, pan ym-