Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/115

Gwirwyd y dudalen hon

welai'r Arglwydd mewn barn â hwynt, "hwy a'i ceisient ef, ac a ddychwelent; cofient hefyd mai Duw oedd eu craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd."

Yr un fath bobl oedd y Brutaniaid hwythau; rhai yn ymgeisio â Duw mewn cyfyngura, ac yn ei wrthod mewn helaethrwydd. Ac felly ar hyn o bryd, tra'r oedd y Saeson trwy frad a chreulonder wedi trawsfeddiannu rhan fawr o Loegr, gweddillion y Brutaniaid a ddychwelasant at yr Arglwydd eu Duw, â'u holl galon a'u holl egni. Emrys Benaur oedd yn awr eu brenin, a fu ben cadben y llu yn amser Gwrthefyr Fendigaid, megis y soniwyd o'r blaen; a chymaint oedd ei glod wedi eangu dros yr holl deyrnas, fel prin oedd gŵr o ugain i hanner cant oed na chwenychai ddwyn arfau dano. A gwŷr Gwynedd a Deheudir hefyd ar hyn o bryd ddaethant yn gymorth cyfamserol i'w brodyr yn Lloegr; ac, yn wir, achos da paham; canys fe rydd pob un fenthyg ei law i ddiffodd tŷ ar dân, a phob un a ymgyfyd â'i arf yn ei law i daro ci cynddeiriog yn ei dalcen. Felly, a hwy yn awr yn llu cadarn, a'u hymddiried yn yr Arglwydd, myned a wnaethant yn uniongyrch, a danfon gwys at y gelynion i ymadael o Frydain; neu, os oedd calon ynddynt i ymladd, deuent i'r maes, ac ymladdent yn deg, ac nid fel bradwyr yn cynllwyn am waed dan rith cyfeillion. Hengist ar hynny a wrychiodd, canys yr oedd yr hen gadnaw yn fyw eto, ac yn awr o gylch saith a thriugain oed; ac ar ol ymgynghori â'i frawd Hors, ac ereill o'i gadbeniaid, efe a atebodd i'r penrhingyll a anfonodd Emrys ato, "fod ganddo ef gystal hawl yn y tir a oresgynasai efe drwy