Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/116

Gwirwyd y dudalen hon

nerth arfau a'r goreu o'r Brutaniaid. Serenbren am eu bygwl."

Ar hynny, rywbryd ym mis Mai, yn y flwyddyn o oedran Crist 484, y bu ymladdfa greulon rhwng y ddwy genedl; y naill yn ymwroli er gyrru estrongenedl, bradwyr a mwrddwyr, allan o'u gwlad; a'r llall yn ffyrnigo fel ellyllon er cadw craff yn eu trawsfeddiannau anghyfiawn. Ar ol cwympo cannoedd o bob parth, yn enwedig o blaid y Saeson, dynesu a wnaethant yn dra llidiog i ymladd law-law; a chethin oedd yr olwg i weled rhai wedi eu hollti yn eu canol, rhai yn fyr o fraich, ac ereill o goes. Hors a wanwyd yn ei wddf, a Hengist a ddaliwyd yn garcharor, a'r lleill ar hynny a ffoisant, ond y rhan fwyaf yn archolledig a dart o'u tu ol. Y sawdwyr yno a lusgasant Hengist gerfydd ei farf tua phabell y brenin, a phan oedd dadl yn eu mysg ynghylch pa beth a wneid o hono, Dyfrig, archesgob Caerlleon-ar-Wysg, a gododd ar ei draed ac a ddywedodd,—"Petai pob un o honoch chwi am ei ryddhau ef, myfi, ie myfi, ag wyf yn esgob, a'i drylliwn ef yn chwilfriw; canys mi a ganlynwn siampl y proffwyd Samuel, yr hwn, pan oedd Agag, brenin yr Amaleciaid, yn ei law, a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ym mysg gwragedd. A Samuel a ddarn—iodd Agag gerbron yr Arglwydd yn Gilgal.' Gwnewch chwithau, anwyl wŷr," eb efe, yr un ffunud a Hengist, yr hwn sydd megis ail Agag." Ar hynny, Eidiol, iarll Caerloyw, a ruthrodd arno, ac a'i lladdodd. Gyda bod y cleddyf ynddo, yna chwi a welech yr holl lu yn gwasgaru, rhai yma, rhai acw, i geisio bob un ei garreg i daflu arno; a chyn nosi, yr oedd yno