Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/117

Gwirwyd y dudalen hon

gryn garn ar ei ben, megis yr oeddid yn arferol o wneuthur â drwgweithredwyr, y rhai, oddiwrth hyn, a gyfenwir yn Garn-ladron.

Emrys Benaur oedd yn awr yn eistedd yn ddiogel ar yr orseddfainc; a chyn gwneuthur un peth arall, adgyweirio tŷ na dinas, efe a barodd talu diolch cyffredinol i Dduw ymhob eglwys blwyf a chadeiriol o fewn y deyrnas, am deilyngu o hono adael ei fendith i gydgerdded â'u Ac yn harfau er darostwng y gelynion. ebrwydd, y gweddillion o'r Saeson a adawyd yn fyw, a ymostyngasant ger ei fron, a lludw ar eu pennau, a chebystrau am eu gyddfau, yn taer ymbil ar fod yn wiw gan y brenin i ganiatau ond eu hoedl yn unig iddynt. Y brenin yno a ymgynghorodd â'i benaethiaid; a barn Dyfrig, yr archesgob, oedd hyn,—"Y Gibeoniaid," ebe efe, a geisiasant amodau heddwch gan yr Israeliaid, er nad oedd hynny ond mewn twyll, ac a'i cawsant. Ac a fyddwn ni, Gristnogion, yn greulonach nag Iddewon, i gau allan y Saeson oddiwrth drugaredd? Y mae'r deyrnas yn eang ddigon; y mae llawer o dir eto yn annghyfannedd; gadewch iddynt drigo yn y mynydd-dir a'r diffeithwch, fel y byddont yn weision yn dragywydd i ni." A'r brenin, ar hynny, a ganiataodd eu hoedl iddynt, ar eu gwaith yn cymeryd llw o ufudd-dod i goron Lloegr, ac na ddygent arfau byth rhagllaw yn erbyn y Brutaniaid.

Chwi a glywsoch eisoes fod i Wrtheyrn fab a elwid Pascen, yr hwn, pan goronwyd Emrys Benaur yn frenin, a aeth eilwaith yn llidiog i Sermania, gwlad y Saeson, i'w cymell trosodd i Frydain i ennill y deyrnas oddiar Emrys. Ac ar ol iddo, drwy weniaith ac addewidion mawr, gynnull ato lu mawr o wŷr arfog, efe a hwyliodd