Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/118

Gwirwyd y dudalen hon

gyda hwy mewn pymtheg llong, ac a diriodd yn ddiangol yn Iscoed Celyddon, a elwir heddyw Scotland, lle y gadawodd efe y Saeson gyda'u cydwladwyr, y rhai a arbedodd Emrys Benaur, ac a ganiataodd eu hoedl iddynt ar ddeisyfiad Dyfrig, archesgob Caerlleon-ar-Wysg. Am dano ei hun, gyda ynghylch hanner cant o wŷr ei wlad, efe a hwyliodd i'r Iwerddon, o'r lle yr oedd efe yn disgwyl ychwaneg gymorth oddiwrth Gilamwri, un o frenhinoedd yr ynys honno. Cilamwri a'i derbyniodd ef yn anrhydeddus, ac a adawodd iddo gael saith mil o wŷr dewisol i fordwyo gydag ef i Frydain. Pascen a'i lu a diriasant yn Aberdaugleddyf, ym Mhenfro, ac oddiyno y cerddodd yn y blaen yn llidiog, megis arthes yn ymgynddeiriogi wedi colli ei chenawon, gan ddifa a dinistrio y cwbl, tua Chaerfyrddin, glan Tywi, ac oddiyno i Aberhonddu a glan Wysg, hyd at Fôr Hafren.

Emrys, brenin y Brutaniaid, yn y cyfamser oedd yn glaf yng Nghaer Went; a hyfryd iawn oedd y newydd yng nghlustiau Pascen, ac a ddymunasai o eigion calon ei fod ef mewn rhywle arall nag yn nhir y rhai byw. Ac yna neidio a wnaeth y diafl i galon Pascen, a dyfalu ffordd i ladd y brenin; ac fe wyddai eisoes fod ganddo Sais yn ei gymdeithas, Eppa oedd ei enw, o gystal un at fath orchwyl ag a fu erioed yn ysgoldy Belzebub. Yr oedd efe yn deall yr iaith Gymraeg, yn rhyw ychydig o feddyg, ac yn ddyn dewr ystrywgar hefyd. Ac fel y byddai efe yn fradwr hollol, efe a ymrithiodd megis offeiriad, aceto yn deall meddyginiaeth. "Wele yn awr," ebe Pascen wrtho, dos a llwydda; a gwybydd fyned yn ebrwydd at y Saeson i Iscoed Celyddon, ar ol gwneuthur o