Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/119

Gwirwyd y dudalen hon

honot dy orchwyl, a danfon air ataf innau. Y Sais, mewn rhith gŵr crefyddol, ac yn un yn deall meddyginiaeth, a gafodd fynediad yn hawdd i lys y brenin, ac a roddodd iddo ddiod o lysiau a gasglodd efe o'r ardd, yng ngwydd pawb; ond efe yn ddirgel a gymysgodd wenwyn â hi, ac o fesur cam a cham a ddiflannodd o'r golwg, a phrin y gorffwysodd efe yn iawn nes myned a'r newydd at ei gydwladwyr i Iscoed Celyddon, a'u hannog i wisgo eu harfau. Dydd du yn ei wyneb, a phob bradwr câs megis yntau.

Fe ddywedir i seren a phaladr iddi, anfeidrol ei maint, ac yn echrydus yr olwg, ymddangos i Uthr Bendragon ar y munud y bu farw Emrys ei frawd. A phan oedd Uthr, a phawb o'r rhai oedd gydag ef. yn ofni wrth edrych ar y fath weledigaeth, yno Myrddin a ddywedodd,—"O genedl y Brutaniaid, yn awr yr ydych chwi yn weddw o Emrys, y golled ni ellir ei hennill; ac er hynny nid ydych yn amddifad o frenin, canys tydi a fyddi frenin, Uthr; brysia di, ymladd â'th elynion, canys ti a orfyddi arnynt, ac a fyddi feddiannol ar yr ynys hon; a thydi a arwyddocâ y seren a welaist ti."

Uthr Bendragon a goronwyd ar ffrwst; ac ar y fath amser terfysglyd a hwn, nid oedd dim cyfle nac adeg i lawer o seremoni a rhialtwch; canys yr oedd Eppa, mab Hengist, wedi perswadio ei gydwladwyr, y Saeson, eu bod yn awr yn rhydd oddiwrth y llw a gymerasant i Emrys Benaur. "Beth," eb efe, ai gwneuthur cydwybod yr ydych o ffol eiriau ffiloreg? Emrys nid yw mwy; mi a roddais gwpanaid iddo i'ch rhyddhau o'r llw a wnaethoch iddo ef. Gan hynny, gwisgwch am danoch eich arfau; yr