Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/120

Gwirwyd y dudalen hon

ydym ni yma, o honom ein hunain yn llu cadarn; a Phascen sydd â llu cadarn o wŷr dewisol tua Chaerlleon ar Wysg. Y mae'r Brutaniaid wedi digalonni; wele, holl gyfoeth ynys Brydain yn wobr o'n gwroldeb." Nid oedd dim achos wrth lawer o araith; yr oedd y gwŷr a'u cydwybod yn ystwyth ddigon i lyncu llw a'i chwydu allan, pan fyddai hynny at eu tro.

Felly, a hwy yn awr yn llu mawr erchyll, wedi ymgaledu mewn drygioni, ac mor chwannog i dywallt gwaed a difrodi, ag yw haid o gigfrain gwancus yn gwibio am ysglyfaeth, cymeryd eu cyrch a wnaethant, gan ladd a dinistrio, i gyffwrdd â Phascen, yr hwn, erbyn hynny, oedd wedi treiddio Môr Hafren, tua Chaer Bristo. Uthr Bendragon a wnaeth ei ran cystal ag oedd bosibl yn y fath amgylchiadau cyfyng; canys efe a ddanfonodd bedwar rhingyll, un i Gerniw, un i'r Gogledd, un tua Rhydychen a Llundain. ac un i Gymru, ynghyda llythyrau at y gwŷr mawr i godi gwŷr, bob un yn ei fro a'i ardal, i achub y deyrnas rhag bod yn ysglyfaeth i'r fath elynion a bradwyr anrhugarog. Pa gynorthwy a ddaeth o Loegr, ni wyddis; ond o Gymru y daeth rhyw arglwydd mawr a elwid Nathan Llwyd, a phum mil o wŷr dewisol gydag ef. Ac ymgyfarfod oll a wnaethant ar dwyn, gerllaw Caerbaddon, yng Ngwlad yr Haf; sef Pascen Fradwr a'i wŷr, y Saeson hwythau dan Eppa a Cherdic, dau ben-cadben y llu; ac o'r tu arall, Uthr Bendragon a'i luoedd, a Nathan Llwyd a'i wyr o Gymru. Wedi byddino eu gwyr o bob ochr, y dechreuodd yr ymladdfa greulonaf a fu, ond odid, erioed rhwng y Brutaniaid a'r Saeson. Yno y gwelid y saethau yn chwifio o'r naill lu at y llall, megis cafod o gesair yn ym-