Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/121

Gwirwyd y dudalen hon

dyrru pan y byddo gwynt gwrthwyneb yn eu gwthio draw ac yma.

Dros chwech awr, nid oedd dim ond y dinystr gwyllt o bob ochr, ond yn enwedig o du y Saeson, megis y mae Gildas, ein cydwladwr, yr hwn a aned yn y flwyddyn honno, yn sicrhau. Eu lluoedd, y waith hon, er eu hamled, a sathrwyd fel nad arhosodd cymaint a rhestr gyfan yn ddiglwyf; a'r maes a guddiwyd cyn dewed â chelaneddau y meirw, fel mai nid gwaith ysgafn dros rai diwrnodau oedd eu claddu. Y frwydr hon a ymladdwyd yn y flwyddyn 495. Arthur, mab y brenin, a ymddygodd yma yn llawn calondid a medr i drin arfau. Am ba ham y mae beirdd yr oes honno yn canu ei fawl mewn amryw benillion ac odlau; ac ymysg ereill, hen Daliesin Benbeirdd sy'n canu,—

"Gwae hwynt-hwy yr ynfydion,
Pan fu waith Faddon;
Arthur, ben haelion,
Y llafnau bu gochion,
Gwnaeth ar ei âlon
Gwaith gwŷr gewynion."

Ni bu dim rhyfel ar ol hyn dros amryw flynyddoedd; canys y Saeson a dorrwyd i'r llawr y waith hon, ac hyd y gall dyn farnu, ni buasent byth yn abl i godi eu pennau drachefn ym Mhrydain, oni buasai anghydfod ac anras y Brutaniaid yn eu mysg eu hunain. Canys ar ol iddynt gael preswylfa ddiogel, a llonyddwch oddiwrth eu gelynion o amgylch, ymroddi a wnaethant i bob aflendid ac anwiredd, gormodedd a meddwdod, anudon a dywedyd celwydd, megis pe buasent yn beiddio Duw, gan ddy-