Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/122

Gwirwyd y dudalen hon

wedyd, "Ni fynnwn ni ddim o'th gyfraith." Ond yn anad un drwg arall, y gwŷr mawr yn enwedig a ymroisant yn ddigydwybod i bob aflendid a godineb, yr hyn a barodd eu bod yn cynllwyn am waed, yn mwrddro eu gilydd, ac yn difrodi dros gydol y deyrnas, yn waeth eto er y lles cyffredin nag un gelyn amlwg, neu estron pellenig. Ac ymysg amryw ddrygau ereill, beth a wnaeth rhai mewn gwyn fyrbwyll o gynddaredd a llid, ond gollwng penaethiaid y Saeson o'r carchar; y rhai, cyn gynted ag y cawsant eu traed yn rhyddion, brysio a wnaethant i dir eu gwlad, sef i Sermania, ac adrodd wrth eu cydwladwyr,—"Er i ni, digon gwir, gael y gwaethaf wrth ymladd â'r Brutaniaid lawer tro, megis y mae hynt rhyfel yn ansicr, eto, nid oedd hynny ond eisieu ychwaneg o ddwylaw, ac nid eisieu na chalondid na chyfrwysdra, wrth fel y gwelwn ni bethau yn digwydd. Eto," ebe hwy, "nid allwn lai na chredu oni bydd Ynys Brydain rywbryd neu gilydd ym meddiant y Saeson, ac ond odid cyn bo hir; canys yn awr," ebe hwy, "nid oes dim ond anrhefn gwyllt dros wyneb yr holl wlad. Gadewch iddynt i ladd eu gilydd oni flinont, ysgafna i gyd fydd ein gwaith ni y tro nesaf.

Nid neb ond goreuon y Saeson, eu cadbeniaid, a swyddogion eu lluoedd, a ddiangasant y pryd hwnnw o garchar, a myned i dir eu gwlad, i Sermania. Am yr ysgraglach bach, y werin sawdwyr, ni charcharwyd mo honynt hwy, eithr, a hwy heb un pen arnynt, a wnaethpwyd yn gaethweision i'r Brutaniaid. Ond er hynny, yr oedd y natur ddrwg yn brydio yn y rhai hyn, megis ac yn eu gwŷr mawr. oeddent i godi mewn arfau, lladd eu meistriaid, Chwennych yr