Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/123

Gwirwyd y dudalen hon

a bwyta brasder y wlad, ond eu bod yn ofni fod y Brutaniaid yn rhy galed iddynt. Megis y gwelwch chwi bedwar neu bump o gorgwn yn dilyn y sawr ar furgyn, os digwydd fod yno waed-gi neu ddau yn ciniawa yno eisioes, yna y corgwn, er cymaint fyddo eu chwant, a safant o hirbell, gan edrych o yma draw, heb feiddio peri afonyddwch i'w goreuon. Ond er bod eu gallu yn wan, eto yr oedd eu hewyllys yn gryf; canys y drwg a oedd o fewn eu cyrraedd, hynny a wnaeth y dynionach hyn, sef bwrw gwenwyn yn ddirgel i'r ffynnon, lle, er ys rhai dyddiau, yr arferai Uthr Bendragon yfed o honi; canys yr oedd efe ryw ychydig allan o hwyl, a chyngor ei feddygon oedd yfed dwfr ffynnon bob bore. Ond efe, ŵr glew a chalonnog ag oedd, a gollodd ei fywyd gan frad y Saeson; yn lle ei dynerwch iddynt yn arbed eu bywyd, hwynt-hwy, blant annwn, a wnaethant iddo ef anrheg o wenwyn marwol.

Y fath a hyn oedd y gydnabyddiaeth a ddanghosodd y gwŷr bach; ac am y blaenoriaid, y rhai a ddiangasant o garchar i dir eu gwlad, mynegi draw ac yma pa fath wlad odidog a rhagorol oedd teyrnas Lloegr, nad oedd eu gwlad eu hunain ddim mwy i'w chystadlu â hi nag yw ysgall i rosynau cochion. Mynegi hefyd a wnaethant pa anrhefn ac anghydfod oedd ymysg y trigolion, ac nid oedd dim ameu ganddynt oni byddent berchenogion ar y wlad, os caent hwy rydd—did i godi digon o wŷr ac arfau tuag at hynny. Ac, megis pan fyddo carw wedi ei glwyfo, y bydd corgwn a bytheuaid-gwn, a brain, a phiod, a barcutanod, bawb o un chwant yn llygad-dynnu tuag ato, eu gyd yn blysio am olwyth o gig carw; felly yma yr ymgynhullodd