Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

amryw bobl o dylwythau ereill heblaw y Saeson, nes eu bod yn llu mawr iawn, gylch ugain mil o wŷr, i gyd a'u hergyd i gael rhan o ysglyfaeth Ynys Brydain, yr hon, yn rhy fynych er ei lles, oedd yn glwyfus gan anghydfod a rhy aml ym bleidio o'i mewn.

Ond erbyn eu dyfod hwy i dir Brydain, yr oedd yma ŵr, y brenin Arthur dan ei enw, yr hwn ni roddes iddynt ond ychydig hamdden i wledda ac ymdordynnu. Ar y cyntaf, yn wir, pan nad oedd neb yn eu gwrthsefyll, y gwnaethant hafog echrydus o gylch y lle y tiriasant, ac oddiyno tua Llundain; do, y fath ddistryw a phan y byddo eirias dân yn difa perth o eithin crin, y fath oedd eu cynddeiriogrwydd a'u creulonder. Yn y cyfamser, y brenin Arthur a gynhullodd ei wŷr, ac a ddanfonodd wys, megis yr oedd efe yn ben rheolwr y deyrnas, at Garon, brenin Iscoed Celyddon, Caswallon Lawhir, brenin Gwynedd; at Meuric, brenin Deheubarth; ac at Catwr, iarll Cerniw, yn gorchymyn bob un o honynt i arfogi eu gwŷr, gan fod y gelynion a llu cadarn wedi dyfod i'r wlad, ac yn distrywio y ffordd y cerddent. Pa gymaint o wŷr arfog a ddaeth yng nghyd ar wys y brenin Arthur, ni wyddys yn sicr; ond y mae yn ddilys ddiameu nad oedd yma agos ddigon i wynebu y gelynion yn y maes. Ambell ysgarmes frwd yn wir a fu, ac ambell ymgiprys a chynllwyn; ond y Saeson oedd drechaf, ac yn ymgreuloni yn dra ffyrnig Y brenin Arthur yno, ar ol ym—gynghori â'i arglwyddi, a ddanfonodd lythyr gydag Owen ap Urien Reged, at Howel, brenin Llydaw, ei nai fab chwaer, i ddeisyf porth ganddo yn erbyn y gelynion. Dyma i chwi eiriau'r llythyr,—