Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/125

Gwirwyd y dudalen hon

Arthur, brenin Brydain, at Howel, brenin Llydaw, yn anfon annerch. Y barbariaid anystywallt, y Saeson, sydd fyth yn gormesu yn dra ysgeler yn ein teyrnas. Hwy a gyflogwyd ar y cyntaf, fel y mae'n hysbys ddigon i'ch mawredd, i ymladd drosom: eithr hwynt hwy, yn lle bod yn wasanaeth-ddynion a fynnant fod yn feistriaid, yn erbyn pob gwirionedd a chyfiawnder. Ein cais ni, gan hynny, gâr anwyl, ydyw, ar deilyngu o honoch ddanfon yn borth i ni wyth mil o wŷr dewisol; ac y mae fy hyder ar Dduw, y bydd yn fy ngallu innau ym mhen ychydig, wneyd ad-daledigaeth i chwi. Eich câr diffuant,

ARTHUR, BRENIN BRYDAIN."

Y nai, fel gwir Gristion teimladwy, a wnaeth fwy eto nag oedd ei ewythr yn geisio ganddo; canys efe a anfonodd yn garedig ddeng mil o wŷr, a gwŷr glewion, yn wir, a dewr oeddent. Y fath gymorth a hwn a adfywiodd galon Arthur a'i Frutaniaid, ac yn ebrwydd y bu ysgarmes greulon ac ymladdfa waedlyd, yr hon a barhaodd agos yn ddiorffwys dros dri diwrnod a thair nos. Ac er bod Arthur yn rhyfelwr enwog o'i febyd, ac hefyd ei wŷr yn llawn calondid ac egni i ymladd dros eu gwlad: eto, y mae'n rhaid addef y gwir, hi a fu galed ddigon arnynt y waith hon. Mor ffyrnig oedd y Saeson i gadw craff yn eu traws feddiant annghyfiawn, megis ac y drylliwyd blaenfyddin y Brutaniaid y dydd cyntaf, a'r Saeson yn eu herlid yn archolledig nes lladd cannoedd o honynt; ond Catwr, iarll Cerniw, a'i hymchwelodd drachefn a mil o wŷr meirch a thair mil o wŷr traed gydag ef. Y rhyfel a drymhaodd yr ail ddydd; ac Arthur,