Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/126

Gwirwyd y dudalen hon

o serch at ei genedl, a ddibrisiodd ei einioes gymaint, megis yr aeth efe i ganol y frwydr ymysg ei elynion, a'i gleddyf noeth yn ei law, a elwid Caledfwlch; ac â'i law ei hun, heblaw y lladdfa a wnaeth ei farchogion, efe a wanodd dros dri chant o Saeson; ar hynny y lleill a ffoisant, ond nid cyn tywallt llawer iawn o waed o bob ochr. O gylch y flwyddyn 520 y bu hyn.

Erbyn hyn o amser, yr oedd goreuon Sermania, gwlad y Saeson, wedi cael prawf o ddaioni a brasder Lloegr; a chymaint oedd eu trachwant anghyfiawn i feddiannu y wlad odidog hon, fel y gwnaethant lawn fwriad yn un a chytun, na ddiffygient hwy fyth i ddyfod a gwŷr y tu draw i'r môr i oresgyn Lloegr wrth rym y cleddyf, ie, pe gorfyddai arnynt gwbl arloesi eu gwlad eu hun o bob copa wlanog o'i mewn. O hyn ymlaen, ni chafodd y brenin Arthur ond ychydig lonyddwch nac esmwythder yn holl amser ei deyrnasiad; canys o'r dechreu i'r diwedd efe a ymladdodd ddeuddeg brwydr â'r Saeson. Ac er hyn i gyd, er cymaint o ddyhirwyr a chigyddion gwaedlyd oedd yma yn ymwthio yma o du draw y môr, eto, oni buasai bradwyr gartref, ni roddasai y brenin Arthur bin draen am eu holl ymgyrch; ond teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir." Felly yma, gan fod rhai yn haeru mai nid mab o briod oedd Arthur, y gwyrodd rhan fawr o'r deyrnas, ac eneinio câr iddo yn frenin a wnaethant, a elwid Medrod, yr hwn a fu chwerwach i Arthur na holl ruthrau ei elynion. Canys heblaw ei fradwriaeth yn erbyn y goron, a'i waith yn ymgoleddu y Saeson, efe a gymerodd trwy drais, Gwenhwyfar y frenhines, ac a'i cadwodd yn wraig iddo'i hun. Dynion drwg,