Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/127

Gwirwyd y dudalen hon

aflan, a chynhenus oedd yr hen Frutaniaid o hyd, gan mwyaf; a hwn yw un o'r tri bradwyr Brydain; y ddau arall ydynt Afarwy, fab Lludd, yr hwn a fradychodd y deyrnas i Iwl Caisar; a Gwrtheyrn, yr hwn gyntaf a wahoddodd y Saeson drosodd.

Y mae llawer o storiau am Arthur, y rhai ydynt yn ddilys ddigon ddim amgen na hen chwedlau gwneuthur. Dywedir fod ymrafael ymysg y Brutaniaid ynghylch dewis brenin ar ol marw Uthr Bendragon, tad Arthur; ac i Fyrddin alw ynghyd oreuon y deyrnas i Lundain, a gorchymyn yr offeiriaid weddio Duw ar deilyngu o hono hysbysu drwy ryw arwydd pwy oedd frenin teilwng Ynys Brydain; ac erbyn y bore drannoeth, mewn carreg fawr bedair ochrog, y cafwyd yn ei chanol gyffelyb i eingion gôf, ac yn yr eingion yr oedd cleddyf yn sefyll erbyn ei flaen, a llythrennau euraidd yn ysgrifenedig arno, nid amgen:—Pwy bynnag a dynno y cleddyf hwn allan o'r eingion, hwnnw a fydd frenin cyfiawn Ynys Brydain." A phan wybu y pendefigion a'r offeiriaid hynny, hwy a roisant y gogoniant i Dduw. A rhai o honynt a brofasant i dynnu y cleddyf allan, ond nis gallent. A dywedodd yr offeiriaid wrthynt nad oedd neb yn deilwng i wisgo coron y deyrnas; ond Arthur a ymaflodd yn y cleddyf, ac a'i tynnodd allan yn ddirwystr.

Y fath chwedlau a'r rhai hyn, ac amryw o'u cyffelyb ydynt gymaint yn anfoddloni rhai dynion, megis y beiddiant daeru yn safnrwth eu gwala, na fu erioed y fath frenin ag Arthur. Ond ni ddylid gwadu gwirionedd amlwg, er ei fod wedi ei drwsio â hen chwedlau ofer. Dyn allan o berfedd ei gof a fyddai hwnnw a daerai