Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/128

Gwirwyd y dudalen hon

na chododd yr haul erioed, o herwydd ei bod yn fachlud haul pan yr ynfydai efe hynny. Ac y mae mor ddilys ddiameu fod y fath frenin ac Arthur, a bod Alecsander, er bod hanes bywyd y naill a'r llall wedi eu cymylu â hen chwedlau. Canys y mae beirdd yr oes honno yn crybwyll am dano yn eu penillion. Mi a adroddais o'r blaen awdl o waith Taliesin, clywch un arall o waith Llywarch Hen,—

"Yn Llongborth llâs i Arthur
Gwŷr dewr, cymunent â dur,
Amerawdwr, llywiawdwr llafur."

Barn rhai yw mai Llanborth, o fewn plwyf Pen Bryn, yng Ngheredigion, yw y lle a eilw y bardd Llongborth, yr hyn nid yw anhebyg i fod yn wir. Mae lle yn gyfagos yno a elwir yn gyffredin Maes Glas; ond yr hen enw cyffredin yw Maes y Llâs, neu Maes Galanas; ac yno, drwy bob tebygoliaeth, y lladdwyd rhai o wŷr Arthur, trwy fradwriaeth Medrod. Y mae man arall yn y gymydogaeth o fewn plwyf Pen Bryn, a elwir Perth Gereint, lle wrth bob tebygoliaeth y claddwyd Gereint yr hwn oedd uchel gadben llongau Arthur, ac a laddwyd yn Llongborth, megis y cân yr un hen fardd godidog Llywarch Hen,

"Yn Llongborth y llâs Gereint,
Gwr dewr o goed—tir Dyfneint,
Hwynt hwy yn lladd, gyd os lleddeint."

Heblaw hyn, fe gafwyd beddrod Arthur yn niwedd teyrnasiad y brenin Harri yr Ail, o gylch y flwyddyn un mil, un cant, pedwar ugain