Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/129

Gwirwyd y dudalen hon

a naw, a'r geiriau hyn oeddent argraffedig ar groes blwm, yr hon oedd wedi hoelio wrth yr ysgrin,—" Yma y gorwedd Arthur, brenin enwog y Brutaniaid, yn ynys Afallon." Wrth rai o benillion yr hen feirdd y daeth y goleuni cyntaf ynghylch y man a'r lle y claddwyd ef. Defnydd ei ysgrin ef oedd derwen gau, ac yn gorwedd mewn naw troedfedd o ddyfnder daear.

Yr oedd gan Arthur amryw lysoedd heblaw ei ben palas yn Llundain,—ambell waith yng Nghaer y Gamlas, dinas hyfryd gynt yng Ngwlad yr Haf; ambell waith mewn lle a elwid Gelli Wig, yng Ngherniw; ac yn fynych yng Nghaerlleon ar Wysg, yr hon oedd gynt y drydedd ddinas o ran tegwch a maint drwy'r holl deyrnas, ac yn eisteddfa archesgobaeth.

Ac efe yn ŵr call i ragachub cynnen ymysg ei farchogion ynghylch y lle uchaf ar y bwrdd; dywedir mai efe oedd y cyntaf a ddyfeisiodd y ford gron, fel y gallai pawb eistedd blith-drafflith yn ddiwahan heb ddim ymryson am oruchafiaeth. Y rhai hyn yw y cynheddfau a ofynnid gan bob un o farchogion Arthur, y rhai y caniateid iddynt ar ei fwrdd ei hun,—

"I. Y dylai pob marchog gadw arfau da, ac yn barod at bob rhyw wasanaeth a osodid arno, ai ar fôr ai ar dir.

"II. Y dylai yn wastad wneyd ei oreu er darostwng pawb a fyddai yn gorthrymu ac yn treisio'r bobl o'u hiawn.

"III. Y dylai amddiffyn ac ymgoleddu gwragedd gweddwon rhag magl a niwed maleiswyr; edfryd plant a dreisid o'u heiddo at eu