Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/131

Gwirwyd y dudalen hon

"XII. Y dylai pob marchog ddysgu arglwyddi a phendefigion ieuainc i drin arfau yn gywrain, nid yn unig i ochelyd seguryd, ond hefyd i chwanegu at anrhydedd eu swydd a'u gwroldeb."

Ni chafodd y Saeson ddim meddiant, na'r deyrnas ychwaith ddim llonyddwch parhaus tra bu Arthur yn teyrnasu, er ei fod efe yn ddilys ddigon cyn enwoced brenin a chyn enwoced rhyfelwr ar a fu erioed yn y byd Cristnogol. Ond ar ol ei farwolaeth ef, yr hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn 543, tra yr oedd y fath luaws gwastadol o draw yn heidio arnom, gormes y Saeson a eangodd fwyfwy; megis cornant gwyllt, ar waith cawod yn pistyllio i lawr, sy'n rhuthro dros y dibyn, ac yn gorchuddio y dyffryn isod â llaid, graian, a cherrig. Ac eto ni chawsant ddim cwbl feddiant yn holl Loegr hyd yn amser Cadwaladr, o gylch y flwyddyn 664; ym mha amser y bu marwolaeth fawr iawn yn Lloegr, a elwir pla y fall felen." Ac o achos y pla yr ymadawodd Cadwaladr a'r rhan fwyaf o'r Brutaniaid dan ei lywodraeth ef, ac a aethant at eu cydwladwyr i Lydaw, yn nheyrnas Ffrainc.

Dyma'r pryd y darfu i'r Saeson gael cwbl feddiant yn Lloegr; ond nid yn wobr o'u gwroldeb, ond o achos cynnen ac ymraniad yr hen Frutaniaid; ac am y mynnai Duw eu cospi am eu holl ffieidddra a'u diystyrrwch ar ei sanctaidd gyfreithiau. Y Brutaniaid yng Nghymru a aroshasant yn eu gwlad; hwynt-hwy o Loegr, lawer iawn o honynt, a aethant gyda Chadwaladr eu brenin i Lydaw. Ond ym mhen amser, sef ar ol atal y pla ym Mhrydain, dychwelyd adref a wnaethant, a phreswylio yn y