Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/132

Gwirwyd y dudalen hon

wlad y tuhwnt i Fristo, a elwir Cerniw, lle yr arhosasant fyth wedi hyn, ond bod yr iaith wedi darfod yn awr yn llwyr, oddieithr rhyw ychydig mewn naw neu ddeg o blwyfau. Ac er gwahanu yr hen Frutaniaid oddiwrth eu gilydd, sef i Lydaw, a Cherniw, a Chymru, eto llawer gwaith y gwnaethant ymgais i hyrddu ymaith y gelynion, a bod yn ben drachefn; ond gormod o ymorchest oedd hynny, ac uwchben eu gallu; megis pan fo neidr wedi ei thorri yn dair darn, fe fydd pob darn clwyfus dros ennyd yn gwingo, ond eto heb allu byth ymgydio drachefn.

Y sawl a chwenycho hanes cyflawn am helynt tywysogion Cymru, darllenned Gronicl Caradoc o Lancarfan. Ar y cyntaf un tywysog a reolai Gymru oll; ond Rhodri Mawr, yr hwn a ddechreuodd ei deyrnasiad yn y flwyddyn 843, a rannodd Gymru yn dair rhan, rhwng ei dri mab. Gosododd un yng Ngwynedd, yr ail ym Mhowis, a'r trydydd yn Neheubarth. Breninllys tywysog Gwynedd oedd Aberffraw, ym Môn. Palas tywysog Powys oedd ym Mathrafael. A phen cyfeistedd tywysog Deheubarth ydoedd Castell Dinefwr, ar lan Tywi.

Amcan Rhodri Mawr yn hyn o beth oedd.er diogelwch a chadernid Cymru; fel a hwy yn gyd—dylwyth yng Ngwynedd a Deheubarth, y gallent gydfod fel brodyr, ac, o byddai raid, gydymgynnull eu lluoedd yn erbyn y Saeson. Ond hi a ddigwyddodd yn llwyr wrthwyneb, canys ben-ben yr aethant o hynny allan, fel prin y gwladychodd un tywysog heb ymgecreth a llawer o dywallt gwaed.

Yr enwocaf o holl dywysogion Cymru oedd Hywel Dda, yr hwn a ddechreuodd ei deyrnasiad yn y flwyddyn 940. Efe a drefnodd gyf-