Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/133

Gwirwyd y dudalen hon

reithiau da i'w cadw drwy holl Gymru, y rhai a arferid gan mwyaf hyd yn amser Harri y Seithfed, brenin Lloegr, ac ŵyr i Owen Tudur, o ynys Môn.

'Pan welodd Hywel," ebe y cronicl, gamarfer defodau ei wlad, efe a anfonodd am archesgob Tŷ-Ddewi, a'r holl esgobion ereill ag oeddent yng Nghymru, a'r holl brif eglwyswyr ag oedd danynt, y rhai oeddent i gyd yn saith ugain; ac hefyd holl arglwyddi, baryniaid, a phendefigion y wlad. Ac yno y parodd i chwech o'r rhai doethaf o honynt ymhob cwmwd, ddyfod ger ei fron ef yn ei lys, yn y Tŷ Gwyn ar Daf, lle y daeth efe ei hunan, ac a arhosodd yno gyda'i bendefigion, esgobion, eglwyswyr, a'i ddeiliaid, drwy y Grawys, mewn ympryd a gweddiau am gymorth yr Ysbryd Glân, modd y gallai adferu ac adgyweirio cyfreithiau a defodau gwlad Cymru, er anrhydedd i Dduw, ac er llywodraethu y bobloedd mewn heddwch a chyfiawnder. Ac ymhen diwedd y Grawys, efe a ddetholodd ddeuddeg o'r rhai doethaf o'r cwbl, gyda'r doctor enwog o'r gyfraith, Blegwyryd, gŵr doeth a dysgedig iawn; ac a orchymynodd iddynt chwilio yn fanwl holl gyfreithiau a defodau Cymru, a chynnull allan y rhai oeddent fuddiol, ac esbonio y rhai oeddent dywyll ac amheus, a diddymu y rhai oeddent ar ddigonaidd. Ac felly yr ordeiniodd efe dair rhyw ar gyfraith,—sef yn gyntaf, cyfraith ynghylch llywodraeth y llys a theulu y tywysog; yr ail ynghylch y cyfoeth cyffredinol; a'r drydedd ynghylch y prif ddefodau a breiniau neillduol. Ac yna, wedi eu darllen a'u cyhoeddi, y parodd efe ysgrifennu tri llyfr o'r gyfraith; sef un i'w arfer yn wastadol yn ei lys; a'r ail i'w gadw yn ei lys yn Aberffraw; a'r trydydd yn