Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/134

Gwirwyd y dudalen hon

llys Dinefwr; modd y gallai y tair talaeth eu harfer a'u mynychu pan fyddai achosion. Ac i gymell ufudd-dod iddynt, efe a barodd i'r archesgob gyhoeddi ysgymundod yn erbyn y sawl oll a'i gwrthladdai hi. Yma y canlyn ryw ychydig o honi:—

Barnwr a ddylai wrando yn llwyr, dysgu yn graff, dadganu yn wâr, a barnu yn drugarog. A dyma yr oed y dylir gwneyd dyn yn farnwr, pan fyddo bum mlwydd ar hugain oed. Sef yr achos yw hynny, wrth na bydd cyflawn o synwyr a dysg hyd pan fyddo barf arno; ac ni bydd gŵr neb hyd pan ddel barf arno; ac nid teg gweled mab yn barnu ar ŵr hen.

Rheidus a gerddo dair tref, a naw tŷ ymhob tref, heb gael na chardod na gwestfa, er ei ddal a'i ladrad-ymborth ganddo, ni chrogir.

"O derfydd pob ymryson pwy a ddylai warchadw etifedd cyn y del i oedran gŵr, ai cenedl ei fam ai cenedl ei dad, cyfraith a ddywed, mai gŵr o genedl ei fam a ddylai, rhag i neb o genedl ei dad wneuthur brad am y tir, neu ei wenwyno.

'Os ymrwym gwraig wrth ŵr heb gyngor ei chenedl, y plant a enillir o honno, ni chant ran o dir gan genedl eu mam o gyfraith.

"Tri dyn sy enaid-faddeu (hynny yw, euog o farwolaeth), ac ni ellir eu prynnu,—bradwr arglwydd, a dyn a laddo arall yn ffyrnig, a lleidr cyfaddef am werth mwy na phedair ceiniog.

"Os derfydd bod dau ddyn yn cerdded drwy goed, ac esgynio gwrysgen ar lygaid yr olaf gan y blaenaf, oni rybuddia taled iddo am ei lygad, os cyll; ac os rhybuddia, ni thal ddim. O derfydd bod dau yn cerdded ffordd, a chaffael o'r