Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/135

Gwirwyd y dudalen hon

naill denot; os y blaenaf a'i caiff, rhanned â'r olaf os yr olaf a'i caiff, nis rhan â'r blaenaf.

Ni pherthyn dau boen am yr un weithred. "Y neb a ddyweto air garw neu air hagr wrth y brenin, taled gamlwrw i'r brenin.

Pwy bynnag a gwyno rhag arall, ac a fyddo gwell ganddo dewi na chanlyn, cennad yw iddo dewi, a thaled gamlwrw i'r brenin; ac yn oes y brenin hwnnw ni wrandawer.

"Os dyn cynddeiriog a frath ddyn arall â'i ddannedd, a'i farw o'r brath, nis drwg cenedl yr ynfyd; canys o anian yr haint y collodd efe ei enaid.

"Sef yw mes gwobr, os caiff gŵr foch yn ei goed, o'r pumed dydd cyn Gwyl Fihangel, hyd y pymthegfed dydd wedi Calan Gauaf, lladded y degfed o honynt.

Cymaint a hyn yn fyr oblegid cyfraith Hywel Dda. Yn y flwyddyn un cant ar ddeg ac wyth, y soddodd rhan fawr o iseldir Fflanders. Y trigolion gan mwyaf a ddiangasant, ac, a hwy heb un cartref, a ddaethant i Loegr, gan ddeisyf ar y brenin Harri y Cyntaf ar iddynt gael rhyw gwr o'r ynys i fyw ynddo. Harri oedd hael ddigon o'r hyn nid oedd ei eiddo ei hun, a roddodd gennad iddynt fyned i Benfro a Hwlffordd, a'r wlad o amgylch. Yn y cyfamser yr oedd y Cymry hwy ben-ben a'u gilydd,—megis dyna oedd eu hanffawd a'u hanras o hyd,—a gwŷr Fflanders a gawsant yno breswylfa ddiogel heb nemawr o daro, lle y maent yn aros hyd heddyw.

O gylch can mlynedd ar ol hynny, a hwy yn afreolus, y daeth Llywelyn ap Iorwerth, tywysog Cymru, a llu arnynt. Ond tra yr oedd efe yn