Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/136

Gwirwyd y dudalen hon

gorffwys a'i lu ar Gefn Cynwarchan, yr anfonodd Saeson sir Benfro i geisio amodau heddwch. Llywelyn a wrthododd eu cais, ac a fwriadodd unwaith i'w llwyr ddinistrio oddiar wyneb gwlad Penfro; ond ar ddeisyfiad Iorwerth, esgob Dewi, efe a ganiataodd iddynt eu hoedl, ar eu gwaith,—1. Yn talu iddo swm mawr o aur ac arian; 2. Yn tyngu ufudd-dod iddo ef a'i etifeddion ar ei ol; 3. Yn danfon ato ugain o'u penbonedd i fod yn wystlon ar iddynt gyflawni eu gair.

Yn y flwyddyn 1283 y dygpwyd Cymru gyntaf dan lywodraeth brenin Lloegr; trwy frad a ffalsder, digon gwir; ac er hynny, yn well, ie, fil o weithiau yn well er lles cyffredin y wlad, nag yn amser y tywysogion, y rhai oeddent fel bleiddiaid rheibus, mor chwannog i fwrddro eu gilydd. Canys pan fu farw Llywelyn ap Gruffydd, y tywysog diweddaf yng Nghymru o waed diledryw y Brutaniaid, y danfonodd y brenin Edward y Cyntaf at benaethiaid y Cymry, i erchi iddynt ufuddhau i'w lywodraeth ef, a bod yn ddeiliaid i goron Lloegr. Ond yna yr atebasant, nad ymostyngent hwy fyth i neb ond i un o'u cenedl eu hunain; ac y byddai raid i hwnnw fod o ymarweddiad da, ac heb air o Saesneg ganddo. Ac yno y brenin pan ddeall odd na thyciai mo'u bygylu, a ddychymygodd ffalsder i'w siomi; canys yn y cyfamser yr oedd gwraig y brenin yn feichiog, ac efe a'i hanfonodd hi i dref Caernarfon esgor. A phan an wyd iddi fachgen, y danfonodd Edward yn gyfrwys ei wala at benaethiaid y Cymry, gan ofyn iddynt a oeddent o'r un bwriad ag o'r blaen; a hwy a ddywedasant eu bod. "O'r goreu," ebe Edward, "mi a enwaf i chwi dywysog o'r cyn-