Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/137

Gwirwyd y dudalen hon

eddfau pa rai yr ydych chwi yn ewyllysio. Ganwyd i mi fab yng Nghaernarfon, a hwnnw a gaiff fod yn dywysog i chwi. Un ydyw na wyr air o Saesneg, ac nid all fod dim bai ar ei fywyd a'i fuchedd. Prin y buont foddlon i dderbyn y baban; eto yn lled ddiflas, megis rhai yn yfed diod wermod, cytuno a wnaethant. Ac o hynny allan y cyfenwyd mab hynaf brenin Lloegr, Tywysog Cymru. Llywelyn ap Gruffydd a ryfelodd ar unwaith â holl gadernid Lloegr ac Iwerddon, ar fôr ac ar dir. Efe a soddodd longau y Gwyddelod, ac a yrrodd frenin Lloegr a'i fab a'i holl lu ar ffo. Ond yr hwn nid allodd holl gadernid Lloegr ac Iwerddon ei orthrechu. a gwympodd drwy frad yn ei wlad ei hun. Felly derwen fawr, brenin-bren y tyddyn, a saif yn ddigyffro yn erbyn ystorom, ond diffeithiwr gerllaw a'i bwr hi i lawr â'i fwyell. Efe a fradychwyd ym Muallt, ar ddydd Gwener, 11eg of Ragfyr, yn y flwyddyn 1282. Ei ben a osodwyd ar ben pawl haiarn, ar dŵr Llundain, a'i gorff a gladdwyd mewn lle a enwid o hynny allan Cefn y Bedd; ond pa fan enwedigol y mae ei feddrod, ni wyr neb o'r trigolion presennol.

"Pob cantref, pob tref yn treiddiaw,
Pob tylwyth, pob llwyth y sy'n llithraw;
Pob mab yn ei gryd y sy'n udaw;
Bychan lles oedd im' am fy nhwyllaw,
Gadael pen arnaf, heb ben arnaw;
Pen pan lâs oedd lesach peidiaw;
Pen milwr, pen moliant rhagllaw;
Pen dragon, pen draig, oedd arnaw;
Pen Llywelyn deg, dygna braw
I'r byd fod pawl haiarn trwyddaw." [1]


  1. Gruffydd ap yr Ynad Coch a'i Cant.