i drin arfau rhyfel; canys dyna agos yr unig gelfyddyd ag oedd yn gosod synwyr yr hen bobloedd ar waith; ond yn enwedig ar ol eu dyfod i wladychu yn nheyrnas Ffrainc; canys ein hynafiaid ni, yr hen Gymry, oeddent yn ddilys ddiameu y trigolion cyntaf yn Ffrainc yn yr amseroedd gynt, sef ynghylch amser Crist Iesu ar y ddaear, a chyn hynny, fel y dangosaf isod. Digon gwir, yr oedd y Rhufeiniaid hwythau o gylch amser ein Hiachawdwr yn wŷr mawrion, wedi goresgyn amryw wledydd wrth rym y cleddyf; ac yn wir, â llywodraeth fawr iawn ganddynt ar for ac ar dir; ond nid oeddent ond cynifer o grwydredigion lladronach ar y cyntaf, ac yng ngwasanaeth y Cymry, y rhai oeddent feistriaid arnynt. Ie, ar ol eu myned yn gadarn yn y byd, ac yn dechreu hyrddu eu cymydogion gweinion, eto gorfu iddynt ymostwng i gleddyf dau Gymro, a dau frawd hefyd, Beli a Brân, meibion Dynwal Moelmud. Nid oedd galon yng ngwŷr Rhufain i sefyll yng ngwyneb y brodyr enwog hyn, eithr yn cilio i'w llochesau, fel y gwelwch chwi lu o fechgynnos yn ffoi oddiwrth darw gwyllt a fyddai yn cornio.
O hyn y mae fod cymaint o eiriau Cymreig yn yr iaith Ladin, oherwydd fod y Lladinwyr gymaint o amser dan iau y Cymry; ac y mae yn naturiol i dybied y bydd y gwannaf yn benthyca gan y trechaf, a bod y gweision yn dynwared iaith y meistriaid. Camsynied erchyll ydyw tybied i ni fenthyca y fath luaws o eiriau oddiwrth y Rhufeiniaid, fel y mae Pezron ddysgedig wedi profi tuhwnt i amheuaeth neb a fyn ymostwng i reswm. Nid ydys yn gwadu na fenthycodd ein hynafiaid amryw eiriau Lladin tra fu y Rhufeiniaid yn rheoli yma ym Mhrydain, a hynny oedd