agos i bum cant o flynyddoedd, sef o amser Iwl Caisar, hyd y flwyddyn o oed Crist 410. Ond nid yw hynny ond ambell air, ac eto heb lwyr golli yr hen air priodol i'r iaith; megis i enwi mewn un neu ddau,—yspeilio sydd air Lladin, ond y mae yr hen air fyth yng nghadw, sef yw hwnnw, anrheithio. Gair Lladin yw rhod, ond y mae yr hen air heb fyned ar goll, sef yw hwnnw, olwyn.
Ond yma yr wyf yn barod eisoes i goelio y bydd rhai yn dywedyd nad yw y rhai hyn ond chwedlau gwneuthur,—fod y Cymry unwaith gynt yn byw yn Ffrainc, ac mor enwog yn y byd am eu gwroldeb. Ond er anhebyced y tybir hynny yn awr, nid oes er hynny un peth gwirach mewn hanesiaeth; canys onid oes son fod ymysg y ddwy genedl, sef trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau o'r ynys hon, yr unrhyw ddefodau ac arferion, yr unrhyw grefydd, ac adnabyddiaeth o'r Duwdod, yr unrhyw fath o offeiriaid a Derwyddon? I adael hyn heibio, meddaf,—ac eto yr ydys yn haeru llawer peth ar waeth rhesymau, y mae Iwl Caisar, yr hwn a ysgrifennodd agos ers deunaw cant o flynyddoedd a aethant heibio, a'r hwn a fu dros ddeng mlynedd yn rhyfela yn Ffrainc, ac a fu ryw ychydig ym Mhrydain, y mae Iwl Caisar, meddaf, yn dywedyd ar ei air yn oleu, fod tafodiaith y ddwy deyrnas yn bur debyg i'w gilydd hyd ddim a allasai efe farnu wrth glywed trigolion y naill deyrnas a'r llall yn siarad. Y mae awdwr arall, a ysgrifennodd o gylch hanner cant o flynyddoedd ar ol Iwl Caisar, ac un arall o gylch deugain mlynedd ar ol hynny, yn tystio ill dau yr un peth, nad oedd ond y dim lleiaf o wahaniaeth rhwng iaith y naill deyrnas a'r llall,