sef rhwng iaith trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau y rhai oeddent yn byw y pryd hynny yn Lloegr. Fe allasai fod ond odid ryw gymaint o wahaniaeth rhwng Gwynedd a Deheudir, neu fe allai ryw ychydig yn chwaneg. Ond beth er hynny, diameu mai yr un bobl oeddent o'r dechreuad.
Hefyd, heblaw cysondeb yr iaith, ystyried un dyn nesed yw teyrnas Ffrainc i Loegr; nid oes ond caine o fôr rhyngddynt, lle y gall dyn â llygad craffus ganfod o'r naill lan i'r lan arall ar ddiwrnod clir. Ynys Brydain, gan hynny, yn ddiameu a boblwyd ar y cyntaf allan o'r wlad nesaf ati, megis y poblwyd yr Iwerddon allan o'r wlad hon.
Ond yma y mae i ni ddal sylw mai nid Ffrainc oedd enw y wlad a elwir felly yn gyffredin yn awr; nage, fe'i galwyd hi yn Ffrainc gan y trigolion sydd yn awr yn aros ynddi; y rhai, a hwy yn farbariaid ysgymun ar y cyntaf, a oresgynasant y wlad drwy ladd a llosgi yr hen drigolion, o gylch yr un amser ag y darfu i'r Saeson,—barbariaid ereill,—oresgyn drwy frad yr ynys hon oddiar yr hen Frutaniaid. Eithr enw y wlad ar y cyntaf oedd y Gelli; oblegid ei bod hi yn wlad hyfryd, a rhagorol, a ffrwythlawn, a choediog; megis y gwelwn ni amryw leoedd eto yng Nghymru o'r un enw. Yr hen drigolion cyntaf a alwent eu hunain y Gwyddelod, weithiau y Gwylliaid, ond yr enw cyffredin yn llyfrau hanesion yw y Cymry.
Y mae traddodiad hyd y dydd heddyw ymysg y werin bobl,—nad ydys yn edrych ar hynny ond megis hen chwedl,—fod y Gwyddelod ryw bryd yn yr amseroedd gynt yn frodorion Cymru a Lloegr; ond y mae yn ddilys ddigon