eu bod hwy, megis nad oeddem ni a hwythau ar y cyntaf ond un genedl. Ac yn wir, prin y gall un dybied amgen nad o'r un dorllwyth y daeth y ddwy genedl allan, sef y Cymry a'r Gwyddelod, yr hwn a ystyrio y lluaws geiriau sydd o'r un ystyr gyda ni a hwythau. A phwy bynnag ddarllenno y Gramadeg Gwyddelig, a wel fod tueddiad a natur eu hiaith hwy yn gofyn newid llythyrennau yn nechreu y geiriau, yn gwbl gyson â'r Gymraeg.
Pwy bynnag a ddeil sylw ar lawer o hen enwau afonydd a mynyddoedd drwy y deyrnas hon, ni chaiff efe le i ameu nad y Gwyddelod oedd y trigolion, pan roddwyd yr enwau hynny arnynt. Fe ŵyr pawb mai enw afon fawr yng Nghymru yw Wysc; ac nid yw Conwy, Tywi, Wy, ond gwahanol enwau at yr un ystyr; ie enw yr afon bennaf yn y deyrnas yw Tafwys, hynny yw, cydiad Tâf ac Wysc ynghyd. Ni ŵyr neb gyda ni beth yw ystyr y gair; ond nid oes gan Wyddelod yr Iwerddon un gair arall am ddwfr ond visc. Ac megis y mae y geiriau Coom, Dor, Stour, Tam, Dove, Afon, yn Lloegr, yn cyfaddef nad ydynt amgen na'r geiriau Cymreig, Cwm, Dwr, Ysdwr, Tâf, Dyfi, ac Afon, a thrwy hynny yn dangos mai y Cymry oedd yr hen frodorion; felly y mae y geiriau Wysc, Llough, Cinwy, Ban, Drym, Llechlia, ac amryw ereill, yn dangos fod y Gwyddelod yn preswylio gynt hyd wyneb y wlad hon; canys ystyr y geiriau yn ein hiaith ni ydyw, dwfr, llyn, prif afon, mynydd uchel, cefn, maenllwyd. Pwy fyth a ŵyr yr achos am alw lle defaid yn gorlan, oni ŵyr hefyd fod y Gwyddelod yn galw dafad yn eu hiaith hwy, Kaor? Neu paham yr ydys yn galw "gwartheg