Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/26

Gwirwyd y dudalen hon

gollasom ni; neu eiriau estronaidd, y rhai a fenthyciodd y Gwyddelod oddigan y Skuidiaid.

Dyma ni wedi gweled estron genedl yn gynnar iawn wedi ymgymysgu âg un llwyth o'r hen Gymry, sef & Gwyddelod yr Iwerddon. Digwyddodd yr un peth i'n hynafiaid ninnau ym Mhrydain, fel yr wyf yn awr i ddangos.

Ar ol bod yr ynys hon, o benbwygilydd o honi, ym meddiant yr hen Gymry, ni wyddys yn dda på gymaint o amser y tiriodd yma ŵr o Gaerdroia, a elwid Brutus; yr hwn, ac efe yn medru darllen ac ysgrifennu, ac yn gynnil ei wybodaeth mewn llawer o bethau cywrain a chelfyddgar, a gâs o unfryd ei dderchafu yn ben ar yr hen drigolion, y rhai, a hwy yn anfedrus y pryd hwnnw agos mewn pob peth ond i ryfela, a ddysgodd Brutus mewn moesau dinasol, ac i blannu, i adeiladu, ac i lafurio y ddaear; ond yn enwedig efe a'u haddysgodd mewn dau beth nad oedd ond ambell genedl yn yr hen amseroedd hynny yn gydnabyddus â hwy, sef yw hynny, i ddarllen ac ysgrifennu, yr hyn ni chollasant fyth wedi hyn. Dywedir i Brutus a'i wŷr dirio ym Mhrydain ynghylch mil o flynyddoedd cyn geni Crist.

Iaith Brutus a'i wŷr oedd y Groeg, ac y mae yn ddilys mai oddiwrtho ef y cawsom yr amryw eiriau Groeg, y rhai sydd hyd heddyw yn gymysg â'r iaith Gymreig. Canys Brutus a'i bobl a ymgymysgodd â'r hen drigolion, yr un ffunud ag y darfu Madoc ab Owen Gwynedd ymgymysgu â phobl America. Canys y Madoc hwnnw, yn y flwyddyn o oedran Crist 1170, pan oedd ei frodyr yn llofruddio eu gilydd, fel bleiddiau ffyrnig, ynghylch eu treftadaeth yng Nghymru, a gymerth long, ac a hwyliodd tua'r