Gorllewin, heibio i'r Iwerddon, nes dyfod o'r diwedd i'r deyrnas fawr ac eang honno a elwir yn awr America. Yna y gadawodd efe rai o'i wŷr i gadw goresgyn a meddiant o'r wlad, ac a fordwyodd adref i Gymru drachefn, lle y traethodd efe wrth ei gydwladwyr pa wlad ffrwythlawn a rhagorol a gafodd efe allan wrth hwylio gyda'r haul i bellder y gorllewin. Dymunodd arnynt ystyried am ba greigle a mynydd-dir, ac anialwch, yr oeddent hwy yng Nghymru, megis cynifer cigydd gwaedlyd, yn llofruddio eu gilydd. Deuent gydag ef, a hwy a gant drigo mewn gwlad, yn yr hon y bwytaent fara heb brinder, ac ni byddai eisieu dim arnynt.
Fe synnodd hyn gymaint ar ei gydwladwyr, fel y cododd llu mawr o wŷr a gwragedd gydag ef, yn enwedig o'r rhai hynny ag oedd yn caru byw yn llonydd, ac a diriasant ym mhen wyth mis a deng niwrnod yn y porthladd y buasai efe o'r blaen ynddo. Tra y parhaodd y to hwnnw, hwy a gadwasant gyda'u gilydd, o'r un iaith, o'r un grefydd, a'r un gyfraith. Ond ymhen talm o amser, ar ol dwy genhedlaeth neu dair, fe ymgyfathrachodd y to nesaf â thrigolion y wlad, ac aethant yn un genedl â hwy, fel y gwelwch chwi ddwfr a llaeth yn ymgymysgu.
Yn awr, y mae gennym y sicrwydd mwyaf sydd bosibl i fod, mai y Cymry oedd y cyntaf o holl drigolion Ewrop a gawsant y ffordd allan i America; oblegid, (1) Fod croniclau yr oesoedd yn tystio hynny. (2) Fod amryw eiriau Cymreig gan bobl y parthau hynny hyd y dydd heddyw, lle y gwladychodd y Cymry gyntaf; megis pan y byddont yn siarad dywedant, Gwrando. Pengwyn yw enw aderyn a phen gwyn iddo. Coch-y-dwr yw enw aderyn arall. Corroeso yw enw y