Ac heblaw hyn, y mae rhyw beth hefyd i ddysgu oddiwrth draddodiad a hen chwedlau; ac fe ŵyr pawb nad oes un peth mor gyffredin ymysg y Cymry na chred o'u dyfod gyntaf i'r ynys hon o Gaerdroia. Ond pa fodd y bu hynny mi a ddangosais eisoes. Ie, y mae hyn wedi greddfu mor ddwfn fel y cewch chwi weled hyd yn oed y bugeiliaid ar ben pob twyn a bryn yn torri llun Caerdroia ar wyneb y glas. Fe all dyn o ystyriaeth gasglu rhyw beth oddiwrth hyn; ond pa fodd bynnag, dyma fel y maent yn ei darlunio hi, yn llawn o droion yn wir yn ol ei henw.
Nid oes yn awr, hyd y gwn i, ond un peth yn ol, sef paham y galwyd yr ynys hon Brydain ar y cyntaf. Tybia Mr. Camden, yr hwn yn ddiau oedd ŵr dysgedig, ond opiniwnus,—i wŷr o wledydd ereill ei galw felly gyntaf o waith bod yr hen Frutaniaid yn britho eu crwyn. Ond nid oes odid gymaint ag un yn ei ganlyn ef yn awr yn ei ddychymyg wan anilys. Y mae Mr. Humffrey Llwyd, gŵr dysgedig arall o Gymro a ysgrifennodd o flaen Camden, yn tybied mai ystyr y gair Prydain, yw "pryd cain," sef yw hynny, ei galw hi felly gan yr hen drigolion oherwydd tegwch ei phryd. Y mae hyn hefyd yn seinio yn lled anaturiol, os nid yn dynn ac yn drwsgl. Ond dyma'r anffawd, pe bae un mor ffodiog a tharo wrth y gwir ddeongliad, eto ni all neb fod yn sicr mai hwnnw sydd ar yr iawn. Mi a dybiwn, os nid Brutus a alwodd y wlad ar ei enw ei hun, mai yr hen enw yw Prydwen; ac mi a wn fod gair Prydwen yn ateb yr ystyr cystal, ac yn fwy rhwydd a naturiol na Phrydcain, am fro deg brydweddol hyfryd. Dyma fel y galwai yr hen Frutaniaid gynt darian Arthur.