PENNOD II.
Y Rhyfel a'r Rhufeiniaid.
FE fu ynys Prydain yn yr hen amser gynt yn talu teyrnged i Rufain, a hynny dros chwaneg na phedwar cant o flynyddoedd; a'r pryd hwnnw nid oedd bonedd y Cymry yn siarad Lladin mor gyffredin ag y maent yn siarad Saesneg yn awr. Nid wyf fi ddim yn meddwl gwaith pab Rhufain yn danfon ei swyddogion yma i geinioca bob blwyddyn, megis y byddai yr arfer yn amser Pabyddiaeth; ond yr wyf yn meddwl amherawdwyr neu. emprwyr Rhufain, y rhai, ymhell cyn dyfodiad y Saeson i'r ynys yma, oeddent wedi goresgyn drwy nerth arfau, amryw o wledydd yn Asia ac Affrica, ond yn enwedigol yn Ewrop, ac ymysg ereill yr ynys hon o Frydain.
Ond beth oedd gan na emprwr na phab Rhufain i wneuthur â'r deyrnas hon o Frydain? Pa hawl oedd gan y naill na'r llall i awdurdodi yma? Cewch glywed. Teitl naill oedd min y cleddyf, canys pa wlad bynnag a allai yr emprwr a'i wŷr rhyfel ei hennill drwy nerth arfau, tybid fod hynny yn ddigon o hawl i gymeryd meddiant ynddi; ond pa fodd bynnag yw hynny, pe bae ŵr canolig a phump neu chwech o ddyhirwyr wrth ei gynffon yn beiddio llofruddio a lladrata, fe a estynnid eu cegau wrth grogbren am hynny. Ac am deitl y pab, y mae hwnnw cynddrwg a'r llall, os nid gwaeth; canys nid yw yn ddim amgen na'i drais yn ymhyrddu ar anwybodaeth dynion, ac yn rhyfygu awdurdod i