fod yn ben ar yr eglwys na roddes Iesu Grist erioed iddo; a phan oedd Eglwys Rhufain yn ei phurdeb, heb ei difwyno âg ofergoelion, megis y mae hi yn awr, nid oedd wahaniaeth yn y byd rhwng esgob Rhufain, ond yn gydradd âg esgobion ereill.
Y cyntaf o'r Rhufeiniaid a adnabu ynys Prydain oedd Iwl Caisar, a hynny oedd o gylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. Gŵr oedd hwn o ysbryd eang, yn rhyfelwr o'i febyd, ac yn chwennych fel Alecsander Fawr oresgyn yr holl fyd, a myned yn glodfawr.
"Blaenrhed wrth fyned oedd fo,
Ag olaf pan f'ai gilio."
Ond cyn iddo ddyfod ar antur i Frydain, efe a anfonodd lythyr at y brenin a elwid Caswallon yn y geiriau hyn, nid amgen,—
Yn gymaint a bod y cwbl o'r Gorllewin wedi ymroi i mi fel i frenin goruchaf arnynt, ac i senedd Rhufain, naill ai drwy gariad ai drwy ryfel; oherwydd hynny, yr wyf yn hysbysu i ti, Caswallon, a'th Frutaniaid, sy'n teyrnasu, a'r môr yn eich hamgylchynu, ac eto heb fod dan reolaeth Rhufain, y bydd raid i chwi ufuddhau i mi ac i senedd Rhufain, canys dyledus a chyf—iawn yw hynny. Er eich rhybuddio, yr ydym ni, senedd Rhufain, yn danfon atoch y llythyr hwn, er traethu ac hysbysu i chwi, yr ymddial—wn ni â chwi drwy ryfel o nerth arfau, os chwychwi nid ymroddwch i ni am dri pheth; sef (1) Talu o honoch i Rufain deyrnged bob blwyddyn. (2) Bod bob amser yn barod a chwbl o'ch nerth i ymladd wrth fy ngorchymyn â'm gelynion o amser bwygilydd. (3) Danfon gwystlon i