Rufain ar gyflawni hynny; yr hyn os chwychwi a'i gwna, eich perygl a fydd lai, a'ch rhyfel ar ddiben; ac onide, edrychwch am ryfel ar frys."
Pan ddarllennodd Caswallon, brenin y Brutaniaid, y llythyr hwn, danfonodd i geisio ei gynghoriaid a.i arglwyddi goruchel ato, fel y gwelent pa ryw dymestl a dinistr oedd yn crogi uwch eu pennau. Ac er gwaethaf bygythion Caisar, hwy a gydfarnasant megis o un genau anfon llythyr ateb iddo yn y wedd hon, nid amgen,
Yn y modd yr ysgrifennaist ti, Caisar, ataf i, mai ti biau freniniaethau'r Gorllewin, yr un modd boed hysbys i ti, mai myfi a'r Brutaniaid a biau ynys Brydain. Ac er i'r duwiau roddi i ti gwbl o'r gwledydd wrth dy ewyllys dy hun, ni chei di ddim o'n heiddo ni, canys cenhedlaeth rydd ydym ni, ac nid oes arnom deyrnged nerth na gwystl i ti nac i senedd Rhufain. Ac o'r achos hwnnw dewis di ai cilio yn dy eiriau, ai rhyfela; ac yr ydym ni yn barotach i ymladd â thydi nag i ddymuno tangnefedd; ac yn foddlon gennym i fentro ein hoedlau er cadw ein gwlad rhag estron genedl, heb ofni mo'th fawr eiriau. Gwna y fynnych dan dy berygl.
Wedi i Iwl Caisar ddarllen y llythyr hwn, a gweled bwriad diysgog y Brutaniaid i ymladd âg ef, dirfawr lid a gymerth ynddo ei hun, ac a ddywedodd wrth ei uchel swyddogion,—" Chwi a welwch mor anfoesol a sarrug i'm hatebasant, ond odid ni a wnawn iddynt laesu peth o'r dewrder a'r taiogrwydd hyn. A hwy a atebasant,—"A gymeri di, O Caisar, dy lwfrhau gan wag ymffrost barbaraidd? Ni a wyddom amgen. Wele ni yn barod i ymladd wrth dy ewyllys tra