fo defnyn gwaed yn ein cyrff." Ac ar hynny Caisar a ymwrolodd ac a gynhullodd ei filwyr ynghyd, sef oedd eu rhifedi pum mil ar hugain o wŷr traed, a phedair mil a phum cant o wŷr meirch, ac mewn pedwar ugain o ysgraffau a fordwyodd, efe a'i wŷr, tuag at ynys Brydain.
Yr oedd y Brutaniaid hwythau yn gwybod eu bod ar fedr ymweled â hwy, canys nid amser i fod yn segur ac ysmala oedd hwn; ac am hynny yr oedd yspiwyr yn disgwyl yn y prif aberoedd rhag i'r gelynion i dirio yn ddiarwybod, a'u lladd yn eu cwsg. A chyn gynted ag y daeth y llongau i olwg y tir, y swyddogion a anfonasant yn ddiaros i fynegu i'r brenin fod y gelynion wedi dyfod. Ac ar hynny y brenin a archodd i'r penrhingyll i ganu'r cyrn cychwyn i gynnull ei wŷr rhyfel ynghyd. A brysio a wnaethant yn llu mawr arfog at y porthladd ym min Caint, ac erbyn hynny yr oedd y gelynion o fewn ergyd saeth. Nid oedd gan y Brutaniaid y pryd hwnnw na lluryg, nac astalch, na tharian, na phenffestin, nac un trec na pheiriant i amddiffyn rhag y saethau a'r gwaywffyn; lle yr oedd gan wyr Rhufain helm o bres am eu pennau, tarian yn eu dwylo, a lluryg ddur o gylch eu dwyfron. Ond er hyn o anfantais, pobl noeth yn erbyn gwŷr arfog; eto, bernwch chwi, a fu achos gan wyr Rhufain fostio mai hwy a gawsant y trecha yn y diwedd? Canys am y glewion Frutaniaid, rhai a safasant ar bennau creigydd, rhai a ddisgynasant i'r traeth, ereill a aethant i'r môr, a phawb yn ergydio eu saethau cyn amled at y gelynion, nes oedd gwaed y lladdedigion yn ffrydio megis pistyll yma ac acw dros ystlysau'r llongau i'r môr.