Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd Iwl Caisar yn bwrw cael hawddgarach triniad; ac er gwyched rhyfelwr oedd efe, efe a edrychodd yn awr yn lled ddiflas ar y mater, wrth weled ei wŷr wedi digalonni, rhai yn ei regu ef am eu tynnu i'r fath ddinistr, rhai yn hanner marw yn ochain ac yn gruddfan yng nghrafangau angeu, ereill yn gorwedd yn gelaneddau meirw yn ymdrabaeddu yn eu gwaed. Unwaith yn wir y meddyliodd i godi hwyliau a myned adref ond efe a ystyriodd y byddai hynny yn ddifenwad ac yn gywilydd byth iddo ymysg ei gydwladwyr; ac o achos hynny efe a ymwrolodd drachefn, ac a ddywedodd rhwng bodd ac anfodd,—" Gwaradwydd, ie, gwaradwydd tuhwnt i ddim i ni ddychwelyd adref wedi dyfod cyn belled a hyn; nage, ni a fynnwn dirio, pe bae'r diafl ei hun ynddynt.'

Ac yno, fel y gwelwch chwi darw yn taflu ac yn gwylltio ar ol bod dau neu dri o waed-gwn wrtho un hanner awr; felly gwŷr Rhufain hwythau a chwerwasant oddimewn, gan ergydio eu saethau cyn amled a chenllysg at y Brutaniaid; a lladdwyd y fath nifer o bob ochr, nes oedd y môr agos yn wridog gan waed y lladdedigion, a chyrff y meirw a'r clwyfus cyn dewed yn gorwedd ar fin y môr a defaid mewn corlan. A phe buasai elw i Iwl Caisar osod ei draed ar dir Brydain, hynny a gâs efe; eto pe ni buasai efe a'i wŷr redeg yn gyflym i gael diogelwch yn eu llongau, fel y gwelwch haid o wenyn yn taro i'r cwch o flaen tymestl, hwy a larpiasid yn dameidiau â chleddyf y Brutaniaid dewrion. Oddeutu deu—ddeg a deugain o flynyddoedd cyn geni Crist y bu hyn.

Mi a wn o'r goreu fod Iwl Caisar yn dywedyd ei hun iddo wneuthur gryn hafog ym Mhrydain.