hagred, a gorfod arno ffoi a throi ei gefn y waith gyntaf, fe a ddaeth yn awr yn llidiog ac yn hyderus yr ail waith; canys lle nid oedd ganddo ond pedwar ugain o ysgraffau (neu o longau) y tro cyntaf i fordwyo ei wyr trosodd i Frydain, yr oedd ganddo yn awr wyth cant, a nifer ei filwyr y tro hwn oedd tair mil ar ddeg ar hugain, a thri chant a deg ar hugain o wŷr traed; a'r un nifer hefyd o wŷr meirch; sef oedd eu rhifedi gyda'u gilydd chwech mil a thrugain, a chwech cant a thrugain.
Agos i gan mil o wyr arfog, a'r rheiny gan mwyaf yn rhyfelwyr o'u mebyd, beth a allai sefyll yn erbyn y fath lu mawr a hwnnw? Ac ni wyddys pa nifer o filoedd oedd gan y bradwr Afarwy i fod yn blaid â hwy. Ac y mae un bradwr cartrefol, a melldith ei fam a gaffo pob cyfryw un byth,—yn waeth na chant o elynion pellenig; canys y mae bradwr cartrefol yn gydnabyddus â phob amddiffynfa a lloches a lle dirgel lle y mae dim mantais i'w gael. Ond er hyn oll, ni fu i Iwl Caisar ddim achos mawr i orfoleddu o'i daith, na chlod chwaith gan ei gydwladwyr yn Rhufain. Canys yr oedd y Brutaniaid wedi pwyo yng ngwaelod y Tems farrau heiyrn erchyll â phigau llymion, y rhai nad allai neb eu canfod o yma draw, am eu bod droedfedd neu ddwy dan y dwfr. A phan ddaeth llongau Caisar yn ddiarwybod ar draws rheiny, gwae fi, pa waeddi "wbwb" a therfysg oedd ar hynny ymysg milwyr Rhufain; y pigau dur yn rhwygo yr ysgraffau, a hwythau yn soddi ar fin y lan; a'r Brutaniaid hwythau ar dir sych yn llawen am weled eu dyfais yn llwyddo cystal. Y mae yn hawdd i farnu, pe bae hynny ond odid yma yn unig, nad oedd yr