hen Frutaniaid ddim cyn anfedrused pobl ag y mae rhai yn weled bod yn dda i daeru. Cas yw'r gwirionedd, lle ni charer.
Ond gan nad pa un, Iwl Caisar a diriodd yn ddilys ddigon y waith hon ym Mhrydain; ac od oes coel ar y peth a ddywed y pendefig ei hun, efe a diriodd yn ddirwystr, ond a gafodd ei longau gan y picellau dur yng ngwaelod Tems. Yr oedd y trigolion, eb efe, wedi cilio i'r coedydd ac idd eu llochesau; wedi brawychu wrth weled cynifer o longau, wyth cant o rifedi. Ond ymhen ychydig amser yr ymwelsont âg ef, nid idd ei gapio a phlygu glin ger ei fron, ond i ergydio picellau dur at ei galon. Canys ar eu gwaith yn bloeddio "I'r frwydr," y Brutaniaid a gymerasant arnynt i ffoi, ond nid oedd hynny ond rhith; ac ar waith y Rhufeiniaid yn eu herlid yn fyrbwyll, yr ymchwelodd y Brutaniaid ac ail ruthro, a gwneuthur galanastra nid bychan ymysg y gelynion, er bod Iwl Caisar yn ymffrostio mai efe a'i wŷr a gawsant y trecha yn y diwedd.
Ond boed hynny fel y mynno, un peth yn anad dim oedd hynod dros ben ymysg yr hen Frutaniaid, sef eu gwaith yn ymladd o gerbydau a bachau heiyrn odditanynt; ac yr oedd gan Gaswallon y brenin bum mil o honynt yn yr ymladdfa uchod. Dyfais waedlyd oedd hon, canys wrth yrru ar bedwar carn gwyllt, hwy a dorrent restrau y gelynion, ac a'u llarpient yn echrydus wrth fod y bachau dur yn rhwygo eu cnawd ac yn llusgo yn erchyll, fel nad allai dim fod yn fwy ofnadwy na ffyrnig. Ni welodd y Rhufeiniaid erioed y fath beth o'r blaen; a diameu mai dychymyg aruthrol greulon oedd hynny; ond wrth ryfela nid ydys yn astudio ar