"Cadwed y duwiau Caisar fawr,
A'i lu yn awr yn treiddio
Ymhell i Frydain dros y môr,
A boed hawdd amor iddo." [1]
Ond ni wnaeth efe ddim ond amcanu, a bygwth ar flaen tafod. O gylch deg mlynedd ar hugain ar ei ol ef y bwriadodd Caio Caisar, yr hwn oedd ddyn pendreigl ysgeler, ymweled â'r ynys hon; efe a gynhullodd ynghyd ei wŷr, efe a daclodd ei arfau, ac a wnaeth bopeth yn barod at y daith; ac yno ar ol codi hwyliau, a morio ryw gymaint o olwg tir Ffrainc, fe laesodd calondid y gŵr; ac yn lle myned yn y blaen i dir Brydain i ennill clod wrth nerth arfau, fe roes orchymyn idd ei wŷr ddychwelyd yn eu hol i dir Ffrainc, a myned a chasglu cregin yno ar lan y môr. Ac yr oedd hynny, ond odid, yn well difyrrwch na chael briwio eu hesgyrn wrth ymladd â'r Brutaniaid.
Hyd yn hyn y cadwodd y Brutaniaid eu hawl a'u rhyddid yn gyfan rhag trais a gormes y Rhufeiniaid; a hwy a allasent wneuthur hynny o hyd, pe buasent yn unfryd ac heddychol â'u gilydd. Ond rhaid addef mai dynion diffaith, cynhenus, drwg, oeddent, na fedrent gydfod fel brodyr ynghyd,—arglwydd un cwmwd yn ymgecru â'i gymydog, ac yn myned yn benben, fel y gwelwch chwi ddau waedgi gwancus yn ymgiprys frig-frig am asgwrn. Odid fyth y byddai heddwch parhaus drwy y deyrnas; y trechaf yn treisio'r gwannaf; ac ysbryd o ymddial yn brydio yn ddiorffwys ym mynwesau y gwŷr. mawr. Ac y mae y Rhufeiniaid, er eu bod yn
- ↑ Horat. Lib. 1, Od. 35.