Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

elynion, yn addef yn ddigon eglur nad allasent hwy fyth orthrechu y Brutaniaid oni buasai eu hanghydfod, a'r ymraniadau ymysg eu pendefigion eu hun. Er mai un brenin oedd ben ar yr holl deyrnas, yr hwn a alwai yr hen Gymry Unben coronog, eto yr oedd amryw dywysogion ac arglwyddi â llywodraeth oruchel yn eu dwylo. Ac odid fyth fod y rhai hyn heb ryfel a ffyrnigrwydd rhyngddynt.

Yr oedd yr ysbryd ymddial hwn yn fwy anesgusodol eto, o herwydd fod eu doethion a'u gweinidogion crefydd, y rhai a enwid y pryd hwnnw y Derwyddon, yn pregethu o hyd ymhob cymanfa ar iddynt ystyried enbyted iddynt eu hunain, ac i les cyffredin y wlad, oedd eu gwaith yn ymrafaelio ac yn ymgyndynnu. Ac ymysg ereill, Cyntwrch, gŵr dysgedig o radd y Derwyddon, a areithiodd yn y wedd hon,—Chwychwi bendefigion urddasol o genedl y Brutan Chwyiaid, clust-ymwrandewch a'm chwedl. Rhyw henafgwr gynt, ac iddo ddeuddeg mab anhydyn, ac heb wrando ar ei gyngor i fod yn unfryd ac yn heddychol â'u gilydd, a ddygodd gwlwm o ffyn ger eu bron, sef deuddeg o nifer; ac a archodd os gallai neb un o honynt o rym braich dorri y cwlwm yn ddau; yr hyn pan brofodd un ac arall olynol, a atebasant, nad oedd agos rym ddigon yn y neb un i dorri y baich ffyn ynghyd. Ac yno yr henafgwr a ddatododd y cwlwm; ac yn hawdd ddigon y torrodd y llanciau y ffon a roddasid i bob un ar neilldu. Ac ar hynny y dywedodd eu tad wrthynt,—Cydnebyddwch, fy meibion, tra fo chwithau yn cyd-ddal ynghyd mewn cwlwm tangnefedd a chariad brawdol, nad all neb eich gwaradwyddo; eithr os ymrannu a wnewch, gwybyddwch o fod yn ysglyf-