fawrhydi di pa fodd y mae gwlad Brydain wedi ymrannu yn awr; nid oes dim ond y gynnen a'r anras yn eu mysg; ac y mae gyda ni un o'u goreuon yn gyfaill calonnog i ni, Meuric dan ei enw. Ac y mae efe yn gwirio eisioes, na fydd ond ychydig ac anaml daro, hyd onid allwn oresgyn gan mwyaf eu gwlad oll. Felly yr ym ni yn barnu y dylid yn anad dim ryfela yno, pe amgen ni a'n cyfrifir fel clêr y dom, ac fel cacwn; ac y mae hynny yn anweddus i barch y Rhufeiniaid." Gwir ddigon," ebe Gloyw Caisar, "dyma'r odfa i ni ymddial arnynt, ac ennill y sarhâd a'r golled a gadd Iwl Caisar fy hen ewythr oddiganddynt."
Ac ar hynny Gloyw Caisar a ymwrolodd yn ei ysbryd, ac a gymerth galon gŵr; ond er hynny yr oedd efe yn gallach nag anturio ei fywyd ei hun yn fyrbwyll ar chwedl Meuric; ac a archodd i ben—cadben a elwid Plocyn, os byddai hi yn galed arno, ar ddanfon hysbysrwydd o hynny ato ef i Rufain, ac y deuai efe â chwaneg o wŷr yn gymorth iddo.
Yno wedi i Plocyn a'i wŷr drwy fawr ludded deithio cyn belled a môr Ffrainc, a hwy yno megis yng ngolwg Brydain, eto efe a gafes ei wala o waith eu perswadio hwy i hwylio drosodd i Frydain. Yr oedd dewrder yr hen Frutaniaid megis yn ddrain pigog ar eu hafu fyth. Ond rhwng bodd ac anfodd morio a wnaethant; ac a hwy yn awr yng ngolwg y tir, y chwythodd tymestl o wynt gwrthwyneb, a'u gyrru drachefn i ardal Ffrainc. Tybiodd y Brutaniaid i'r llongau ddryllio a soddi gan y dymestl, ac a aethont ar hynny bawb ar wasgar. Ond yn y cyfamser y tiriodd Plocyn a'i wŷr agos yn ddiarwybod i lu y Brutaniaid; canys y llongau