a achubwyd rhag soddi, er maint oedd y dymestl.
Pan oedd llu y Brutaniaid yn y fath drefn anosbarthus a hyn wedi gwasgaru yma ac acw ar draws y wlad, y mae'n ddilys i'r Rhufeiniaid wneuthur galanasdra nid bychan wrth ddyfod a rhuthro arnynt a hwy yn amharod; ond yn anad dim o ran yr anghydfod a'r ymraefael yn Eithr ymhen ychydig, eu mysg eu hunain. wrth weled cleddyf eu gelynion yn difrodi mor ddiarbed, hwy a ddaethont i well pwyll o fod yn un a chytun â'u gilydd; ac O mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd! Canys tra y parhaodd yr undeb hwn, y cynhullasant eu byddinoedd ynghyd dan eu pen-cadben a'u brenin a elwid Cynfelyn; ac â phawb yn awr yn wresog i ymladd dros eu gwlad, buan y dialeddwyd ar y Rhufeiniaid am y gwaed a dywalltasant; ac er cyn gyfrwysed rhyfelwr oedd Plocyn, a ffyrniced i oresgyn y wlad hon er cael clod a goruchafiaeth gan ei feistr gartref, eto gorfu arno, o anfodd ei ên, i ddanfon i Rufain am ychwaneg o gymorth. Ac yna y daeth Gloyw Caisar ei hun, yr ymherawdwr, a'i holl gadernid, i Brydain.
Yr oedd y cenhadon a ddanfonodd Plocyn i Rufain i gynnull ychwaneg o filwyr, wedi adrodd y fath chwedl arw am ddewrder y Brutaniaid, fel na wyddai Gloyw Caisar beth i wneuthur; ac arno chwant i ymddial, a chwant i aros gartref; megis anner dwymgalon yn brefu wrth weled y cigydd yn lladd ei chyntaf—anedig, ac eto heb galon i gornio y llofruddiwr. Ond yna, ar ol bod yn hir yn go bendrist, y daeth i'w gof i'r Rhufeiniaid unwaith neu ddwy ennill y maes ar eu gelynion wrth ymladd