"Wele, ymhob gwlad y megir glew." Ynghylch blwyddyn yr Arglwydd 53 y bu hynny.
Ond er hyn oll ni laesodd calon y Brutaniaid i sefyll yn erbyn gormes y Rhufeiniaid; ond yr oeddent yn awr yn fwy llidiog nag o'r blaen i ddial arnynt am y sarhad o ddwyn Caradoc yn garcharor i Rufain. Eu pencadben ar ei ol ef a elwid Arifog, ac efe a ymladdodd â hwy lawer brwydr waedlyd, ambell waith yn cael y trecha, ac ambell waith yn colli. Ond beth a allai un genedl wneuthur chwaneg tuag at gynnal ei gwlad a'i gwir eiddo rhag treiswyr gormesol nag a wnaeth y Brutaniaid yma? Calondid, gwroldeb, a medr i drin arfau rhyfel oedd ganddynt cystal ag un genedl arall dan haul. Ond pan oedd gwŷr o newydd yn ymruthro o hyd arnynt, megis yr oedd y Rhufeiniaid yn codi gwyr o bob gwlad, a'u danfon i Brydain, pa le yr oedd bosibl iddynt ymgadw? Y mae gennym achos yn hytrach i ryfeddu pa fodd y gallasant sefyll allan gyhyd.
Ac yma dalıwn sylw ar gyfrwysdra y Rhufeiniaid i gadw craff ar y wlad a oresgynnent drwy nerth arfau; canys yr oeddent yn arferol o arllwys y wlad honno cyn llwyred ag oedd bosibl o'i rhyfelwyr, fel y gallent drwy nerth eu harfau hwy ennill gwledydd ereill, ac er cadw y wlad a oresgynnid dan law.
Nid llai nag ugain mil o Frutaniaid oedd gyda Thitus ap Fespasian yn ymladd yn erbyn Jerusalem: ac yn eu lle y danfonwyd trosodd filoedd a miloedd o bobl yr Itali, y rhai a ymwthiasant i bob man hyfryd, megis haid o gilion gwancus yn tyrru i badell o ddwfr a mêl, ac yn boddi ynddo; neu, megis cenfaint o foch gwylltion yn torri i gae o wenith; ac ar hynny yr hwsmon yn galw ei gwn