ac yn eu llarpio. A thyna fel y digwyddodd hi i'r Rhufeiniaid disperod yma yn y diwedd, fel y dangosaf isod.
Canys yr oedd y rhai hyn yn gwneuthur castiau hagr â'r hen drigolion; yn eu gwatwar, ac yn eu galw wrth bob enw câs a allasai digywilydddra noeth ei ddychymygu. Os byddai tiroedd neu dai wrth fodd y Rhufeiniaid, fe orfyddai ar y perchenogion ymadael â hwynt; a'r cyffredin bobl hwythau yn gorfod gweithio'n galed o fore hyd hwyr, ac estroniaid yn cael yr elw. Ac os beiddiai neb achwyn fod hynny yn dost, fod estroniaid yn meistroli trwy drais, ac yn gwneuthur y trigolion yn gaethweision yn eu gwlad eu hunain, hwy gaent aml ffonodiau am eu cwyn, ac yn fynych eu trywanu â'r cleddyf. Ie 'roedd y Rhufeiniaid yn awr wedi myned mor ysgeler, megis nad oeddent yn edrych ar oreuon y deyrnas ond megis cwn a barbariaid, fel, ymysg ereill, y mae gennym hanes iddynt wneuthur âg arglwydd mawr a elwid Brasydoc; canys hwy a ysbeiliasant ei balas o bopeth gwerthfawr ag oedd ganddo; ac a'i arglwyddes yn ymresymu'n llariaidd â hwy am eu trais a'u cribddail, hi a gurwyd â gwiail nes ei bod yn hanner marw; a threisiwyd ei merch o flaen ei llygaid. Ac i gwblhau ar y cwbl, dygwyd delw a wnaed ar lun yr ymherawdwr, a phwy bynnag nid ymgrymai o'i blaen a'i haddoli, a osodid i farwolaeth.
Yr oedd hyn yn ddilys yn fyd tost, ac anioddefol; ac ar hynny y cyd-fwriadodd arglwyddi a phendefigion y deyrnas i ruthro arnynt a'u torri ymaith yn gwbl, hen ac ieuanc, oddiar wyneb y wlad, megis y gwelwch chwi lafurwr yn son am ddiwreiddio drain, ysgall, a mieri,