tymestl. Ychydig lai na phedwar ugain mil a gwympodd y dydd du hwnnw o bob gradd ac oedran; er nid cymaint a hynny o wyr arfog, ond rhwng gwragedd, gwyryfon, a phlant, a'r werin wirion o gylch; canys mor ffyrnig oedd y Rhufeiniaid y tro hwn, fel nad arbedasant nac hen nac ieuanc, nac hyd yn oed y benywaid yn eu gruddfan, ond trywanu pawb yn ddiwahan, cynifer ag a ddaethant o fewn eu cyrraedd. A Buddug hithau, meddant hwy, o chwerwder a gofid calon a wenwynodd ei hun. O gylch blwy ddyn yr Arglwydd 62 y bu hynny.
Ar ol hyn, digon gwir, yr ehangodd llywodraeth y Rhufeiniaid, ond nid heb golli llawer o waed, ac ymladd megis am bob troedfedd, a goresgyn drwy rym y cleddyf. Bu ymladdfa waedlyd drachefn ym Môn; un arall â gwŷr Deheubarth, y rhai, fel y tystia y Rhufeinwyr, oeddent y dynion dewraf a grymusaf y pryd hwnnw o holl wŷr Prydain. Ac o gylch dwy flynedd ar bymtheg ar ol hynny, sef blwyddyn yr Arglwydd 84, y bu ymladdfa fawr a chreulon eto drachefn yn y gogledd, yn agos i gyffiniau Iscoed Celyddon, lle y cwympodd o'r Brutaniaid, os gwir a ddywed hanesion Rhufain, ddeng mil o wŷr, dan eu pencadben a elwid Aneurin Gilgoch; ond nid ychwaneg, meddant hwy, nag ynghylch pedwar cant o bobl Rhufain, ond bod amryw bendefigion a gwŷr mawr o'r nifer hwnnw.
Dyweded y neb a fyn ei ddewis chwedl, ni bu gymaint o daraw ar y Rhufeiniaid erioed ag a gawsant yma ym Mhrydain. Canys am wledydd ereill, ar ol ymladd ac ennill y maes ddwywaith neu dair, y trigolion yno a ymostyngent i geisio amodau heddwch. Ond am yr hen fech-