bod eu gwŷr dewisol, pigion a blodau ieuenctid y wlad, wedi eu cipio o drais y tu draw i'r môr, megis yr oedd y Rhufeiniaid yn arferol o wneuthur, eto yr oedd digon o ysbryd chwerw o ymddial yn brydio calonnau y gwŷr oedd gartref. Canys y gwŷr y tu draw, ni wnaethant fwy cyfrif o'r clawdd nac a wna march rhyfel i neidio dros gornant; a phreswylwyr Lloegr a Chymru hwythau y tu yma i'r clawdd, a godasant yn un a chytun dros wyneb yr holl wlad, nes ei bod hi yn amser gwaedlyd y pryd hwnnw ym Mhrydain. Cynllwyn am waed,—lladd a difetha eu gilydd drwy boenau a chreulonderau, llosgi tai a gwŷr a gwragedd a phlant o'u mewn, ar air, ymffyrnigo mewn dialedd, oedd agos yr unig beth ag oedd y Rhufeiniaid a'r Brutaniaid yn astudio arno dros amryw ac amryw flynyddoedd. Digon gwir, hwy a lonyddent dros ychydig amser, i gymeryd eu hanadl, megis dau darw gwyllt yn ymgornio, ac yn gadael heibio dros ychydig; ond yno eu llid a ffrydiai o newydd, a myned i ymdopi yn ffyrnicach nag o'r blaen.
Fe syrthiodd peth aneirif o bob gradd ac oedran, yn gystal o'r Rhufeiniaid ac o'r Brutaniaid, yn y terfysg yma, yr hwn a barhaodd dros gymaint o flynyddoedd. Dywedir i ddeng mil a deugain o sawdwyr a swyddogion Rhufain, heblaw ereill hyd wyneb y deyrnas, gael eu trywanu â chleddyf y Brutaniaid. Y gwirionedd yw hyn, yr oedd y ddwy genedl yn bengam eu gwala; ni fynnai'r naill ddim i blygu ac ymostwng; na'r llall ddim i adael heibio wedi dechreu.
Felly y newyddion nesaf sydd gennym ni am danynt yw o gylch y flwyddyn o oedran